ER gwaetha’r tywydd a gorfod adleoli o’r parc i neuadd y pentref cafwyd carnifal hynod o lwyddiannus a hwyliog yn Llanarth eleni eto.
Swyddogion Carnifal Llanarth 2025 oedd Courtney Jones (Brenhines), Evan Davies (Brenin), Jenson Jones , Ted Davies, Mostyn Jones a Loti Hughes (tywyswyr).(Brenin), Jenson Jones , Ted Davies, Mostyn Jones a Loti Hughes (tywyswyr) ac roedd pob un ohonynt yn edrych yn drwsiadus iawn ar lwyfan y neuadd a oedd wedi’i addurno’n arbennig.
Llywyddion y dydd oedd Mr a Mrs Arwel a Neris Davies Cwmcoedog, Mydroilyn a hwythau hefyd oedd yng ngofal beirniadu y dosbarthiadau gwisgoedd ffansi ac roeddynt yn hynod balch o safon y cystadlu.
Dyma’r buddugwyr ymhob dosbarth:
Oed cyn derbyn: 1, Harri Davies; 2, Non Daniel
Oed Meithrin (merched): =1, Glain Jones a Winnie Davies
Oed Meithrin (bechgyn): 1, Harri Chandler
Dosbarth Derbyn: 1, Tomi Llyr
Blwyddyn 1: 1, Thomas Jones
Blwyddyn 2: 1, Wil Davies
Blwyddyn 4: 1, Toby Chandler
Blwyddyn 5: 1, Courtney Jones
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.