MAE Carrie Sauce wedi ennill teitl ail gyfres Y Llais ar S4C.
Credir taw Carrie Sauce yw’r artist drag cyntaf i ennill The Voice ar draws holl diriogaethau’r gyfres ers y cychwyn yn 2010.
Cafodd yr hyfforddwyr eu syfrdanu gan Oliver Martin, o Gaerdydd, sy’n perfformio fel Carrie Sauce, drwy gydol y gyfres cyn hawlio buddugoliaeth fel aelod o dîm Syr Bryn Terfel.
Fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, a fformat ITV Studios, The Voice yw Y Llais, sy'n cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.
Y tri arall a gyrhaeddodd rownd derfynol Y Llais 2026 oedd Chuts o Gricieth yn cynrychioli Tîm Yws Gwynedd, Cas Jones o Ben-y-bont Fawr yn rhan o dîm Bronwen Lewis a Lywis o Abertawe yn cynrychioli Tîm Aleighcia Scott.
Wrth ymateb i’r fuddugoliaeth, dywedodd Carrie Sauce:“Mae’n teimlo’n anhygoel – byswn i byth wedi dychmygu hyn ond dyma’r sypreis gorau y gallwn i fod wedi gobeithio amdano. Dwi methu aros i weld beth sy’n dod nesaf.
“Mae fy nhaith wedi bod yn amrywiol! Jest drwy edrych ar y dewis o ganeuon – wedi mynd o Eurovision, i sioeau cerdd, i Cher, i rai caneuon gwreiddiol Cymraeg hyfryd – mae wedi bod yn anhygoel!”
Yn ystod y rownd derfynol, mi wnaeth y pedwar ganu deuawd gyda’u Hyfforddwyr, ble ymunodd Carrie Sauce â Syr Bryn Terfel am berfformiad cofiadwy o Amser Dweud Ffarwel (Time to Say Goodbye / Con te partirò) gan Sarah Brightman ac Andrea Bocelli.
Roedd perfformio ochr yn ochr â Syr Bryn Terfel “fel gwireddu breuddwyd” i Carrie Sauce: “Ar ôl ei wylio mewn sioeau dros ddegawd yn ôl – i feddwl y byddwn i un diwrnod ar y llwyfan yn perfformio gydag ef, yn dal ei ddwylo, yn edrych i’w lygaid – roedd rhaid i mi binsio fy hun! Roedd yn anhygoel, a nes i garu pob eiliad.”
Dywedodd Syr Bryn Terfel: “Dwi uwch fy nigon! Roedd hi’n gyfres anhygoel a braidd dim rhwng y cantorion oedd yn y ffeinal. Mi wnaeth Carrie Sauce dyfu trwy gydol y gystadleuaeth – arbennig iawn.
“Doedd y pedwar ohonom ni [Hyfforddwyr] ddim yn troi’n aml iawn gyda’n gilydd ond yn sicr pan ddaeth Carrie Sauce ar y llwyfan, oeddem ni’n edrych ar ein gilydd a gwthio’r botwm yr un amser. A finnau’n cael fy nychryn mai tîm Syr Bryn gafodd ei ddewis!”
Fel enillydd Y Llais, mi fydd Carrie Sauce yn cael y cyfle i recordio cân wreiddiol gan un o gyfansoddwyr mwya’r byd, Amy Wadge, sydd wedi cydweithio gydag artistiaid fel Pink, Sam Ryder, ac Ed Sheeran.
Mae dros chwarter cystadleuwyr dwy gyfres gyntaf Y Llais yn ddysgwyr neu’n bobl sy’n ailgydio yn yr iaith. Mae Carrie Sauce, sydd yn wreiddiol o Wlâd yr Haf, hefyd yn ddysgwr balch ac wedi mwynhau’r profiad o ganu yn y Gymraeg: “Mae’n hynod bwysig. Mae wir yn dod â ffocws i’r iaith Gymraeg ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn adfywio’r iaith. Mae’n rhan mor brydferth o’n diwylliant a dydyn ni methu fforddio i’w cholli hi.
“Dwi eisiau gallu parhau i berfformio, parhau i ddysgu Cymraeg, parhau i fwynhau’r wlad anhygoel yma. Dwi wedi byw yma ers 7 mlynedd ac yn gobeithio byddai’n byw yma am weddill fy oes.”
Mae holl benodau'r gyfres ar gael i'w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Ac mae mwy o gynnwys cefn llwyfan i'w gweld ar gyfryngau cymdeithasol @YLlais.
Mae Y Llais yn cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.