BYDD gardd sydd wedi derbyn y Wobr Gorau yn y Categori a Medal Aur yn Sioe Flodau byd-enwog RHS Chelsea yn cael ei symud i Ardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor, dafliad carreg o’r Fenai, dros yr haf.

Roedd stiwdio dylunio gerddi yn Eryri, Studio Bristow, yn arddangos yr ardd hudolus a bioamrywiol ‘Popeth am Blanhigion/All About Plants’ yn Sioe Flodau Chelsea yr RHS 2024, mewn cydweithrediad â’r elusen newid hinsawdd, Maint Cymru.

Cefnogir yr ardd gan 'Project Giving Back', elusen sy'n rhoi grantiau unigryw sy'n cefnogi gerddi at achosion da yn RHS Chelsea. Nod y dyluniad yw dod â bioamrywiaeth gyfoethog bywyd planhigion mewn coedwigoedd trofannol i'r amlwg, a thalu sylw i ganlyniadau dinistriol datgoedwigo.

Roedd disgwyl eiddgar am ardd Maint Cymru, sy’n dangos ymrwymiad Studio Bristow i ddylunio gerddi arloesol a stiwardiaeth amgylcheddol.

Maent wedi partneru â Maint Cymru, elusen newid hinsawdd sy’n gweithio gyda phobl frodorol a lleol ledled y byd i ddiogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol (ardal maint Cymru) a thyfu miliynau o goed.

Mae Gardd Maint Cymru yn trochi ymwelwyr mewn tirwedd gyfoethog sy’n cynrychioli coedwigoedd trofannol, ond yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau planhigion sy’n ffynnu yn ein hecosystemau hanfodol ein hunain, yma yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn herio’r gwyliwr i gydnabod bod tirweddau eu cartref annwyl eu hunain hefyd dan fygythiad.

Meddai Nicola Pulman, cyfarwyddwr Maint Cymru: “Mae coedwigoedd trofannol yn fannau hynod bwysig o ran bioamrywiaeth, gall un hectar gynnwys dros 300 o rywogaethau o goed ac maen nhw’n gartref i filiynau o bobl.

“Llynedd, cafodd 4 miliwn hectar o goedwig drofannol werthfawr ei ddinistrio ar draws y blaned, dwywaith maint Cymru. Rydym yn eich gwahodd ar ein taith RHS Chelsea, lle gyda’n gilydd gallwn sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd.”

Mae 313 o rywogaethau o blanhigion yn cael eu defnyddio yn y plannu, gan adlewyrchu nifer y rhywogaethau coed sy’n bosib eu darganfod mewn dim ond un hectar o goedwig drofannol.