DAETH aelodau o’r gymuned ym Mhenygroes at ei gilydd yn ddiweddar er mwyn dathlu gosodiad cerfluniau newydd sy’n nodi cysylltiad y pentref â’r diwydiant llechi.
Comisiynwyd yr artist Angharad Pearce Jones i greu’r cerfluniau trawiadol gan Gyngor Gwynedd, fel rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi - rhaglen buddsoddi ddiwylliannol a ariennir gan Lywodraeth y DU sy’n ymwneud â dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Bu Angharad yn gweithio gyda disgyblion o Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Dyffryn Nantlle, yn ogystal â haneswyr lleol a grwpiau cymunedol i ddysgu mwy am y diwydiant llechi, ac i greu’r dyluniadau. Roedd nifer o’r disgyblion a chynrychiolaeth o'r grwpiau cymunedol yn y digwyddiad ym mis Mawrth i ddathlu ac ymfalchïo bod y gwaith celf bellach yn ei le.
Mae’r gwaith celf unigryw yn seiliedig ar sustem gwreiddiol o raffau, gwifrau ac olwynion a elwid yn Blondins, i gludo llechi o waelod chwareli Dyffryn Nantlle i’r tir uwch. Mae’r ddau ddarn yn mesur bron 4 medr o uchder yr un ac wedi eu gwneud o ddur corten. Maent wedi’u lleoli ger Canolfan Byw’n Iach Plas Silyn.
Dywedodd Angharad: “Mae wedi bod yn gyffrous gweithio ar un o’r comisiynau celf cyhoeddus yn ardaloedd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda phobl ifanc Penygroes, i ddatblygu darn o gelf sy’n adlewyrchu tirwedd ôl-ddiwydiannol hynod Dyffryn Nantlle a diwylliant llenyddol cryf yr ardal arbennig hon.”
Ychwanegodd yr hanesydd Dilwyn Williams: “Mae wedi bod yn fraint cerdded o gwmpas gydag Angharad, i ddangos Dorothea ac olion yr hen chwareli iddi, a sôn yn y fan honno am y Blondins oedd yn cludo llechi o’r twll i fyny. Y rhain, dwi’n falch o ddeud, yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y cerfluniau.”
System rhaffordd yw Blondins a ddefnyddiwyd mewn chwareli a safleoedd diwydiannol eraill, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol yn yr Alban, lle gyrrwyd cerbyd teithwyr ar hyd linell gadwynol ac o ble’r oedd rhaff gludo yn cael ei reoli ar wahân. Cafodd ei enwi ar ôl y cerddwr rhaffau enwog, Charles Blondin.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Lleol Penygroes ac Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae hon yn enghraifft dda o’r agwedd gadarnhaol yn yr ardal yma, lle mae ’na nifer o brosiectau arloesol gwych yn digwydd. Mae’r hyn dan ni’n gwneud heddiw yn dathlu'r gorffennol, ac mae’r statws UNESCO yn rhan bwysig iawn o hynny.
“Rwy’n gobeithio bydd prosiectau o’r fath yn sbarduno mwy o bethau tebyg, sy’n cadw ein cyswllt gyda’n hanes.”
Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad oedd Cynghorydd Cymuned Llanllyfni, Justin Davies, sydd yn diddori yn hanes llechi'r ardal ers yn blentyn.
Meddai Justin: “Mae’n neis iawn gweld y cerfluniau yn eu lle, ac mae’n bwysig bod ein hanes yn cael ei dathlu, a’r plant yn dysgu amdani.
“Gyda phrosiect fel hyn, mae’n gyfle i’r ysgol gymryd rhan, ac mae’n rhywbeth i’r plant gofio - eu cyfraniad nhw i’r cynllun.”
Ni fyddai’r gwaith wedi bod yn bosib heb gefnogaeth Byw’n Iach a Chyngor Cymuned Llanllyfni, a helpodd i ddatblygu’r cysyniadau, ac sydd wedi cymryd perchnogaeth o’r cerfluniau.