Bydd bws arbennig cefnogwyr Cymru yn cyrraedd Lucerne yn y Swistir, ddydd Iau 4 Gorffennaf cyn gêm gyntaf erioed Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025.
Yn ymuno â’r cefnogwyr bydd y ddarlledwraig a'r cerddor Cerys Matthews, a fydd yn cyflwyno digwyddiad dathlu arbennig wedi ei gynnal gan S4C, gan ddod â balchder Cymru i galon Ewrop.
Wedi'i leoli wrth ymyl ardal cefnogwyr swyddogol Cymru, bydd S4C - Cartref Chwaraeon Cymru - yn creu 'cartref oddi cartref' bywiog i gefnogwyr yn ystod y twrnamaint, i ddathlu a rhannu cyffro ymddangosiad cyntaf Cymru ar lwyfan Ewrop.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd y digwyddiad arbennig y noson cyn i Gymru gychwyn eu hymgyrch Ewro 2025, yn cynnwys perfformiadau gan y seren Reggae Aleighcia Scott, y gantores Buddug, y seren West End Mared Williams, ac eraill.
Dan arweiniad Cerys Matthews, bydd y noson yn dathlu taith hanesyddol Cymru i'r twrnamaint ac yn dangos ysbryd, angerdd a thalent Cymru a’i menywod.
Meddai Cerys Matthews: "Mae diwylliant Cymru wedi'i wreiddio mewn angerdd a balchder — rhinweddau sy'n ymchwyddo pan ddown at ein gilydd i gefnogi ein tîm cenedlaethol ym mhob maes chwaraeon.
"Mae'r bencampwriaeth hon yn hanesyddol; pencampwriaeth fawr gyntaf Cymru yng ngêm y menywod. Mae'n uchafbwynt blynyddoedd o waith caled, penderfyniad a gwydnwch gan y tîm — mae’n ysbrydoledig.
"Rydw i mor falch o fod yn rhan o'r daith hon, gan gefnogi'r tîm wrth iddynt greu hanes ar lwyfan Ewrop."
Mae bws Cymru ar Daith yn rhan o ymgyrch AmdanHi S4C, sy'n cefnogi tîm menywod Cymru ac yn gobeithio ysbrydoli mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd DJ Molly Palmer, Mali Haf, y delynores Nia Evans ac artistiaid eraill o Gymru'n perfformio a diddanu cefnogwyr a chreu cynnwys i blatfformau digidol S4C.
Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod â chartref oddi cartref arbennig i'r Swistir – lle gall cefnogwyr ddod at ei gilydd i ddathlu, a dangos eu cefnogaeth i Gymru wrth iddynt greu hanes ym Mhencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025.”
"Mae hon yn foment hanesyddol i bêl-droed Cymru ac i chwaraeon menywod yng Nghymru, ac mae’n hollbwysig i S4C ein bod yn chwarae rhan wrth rannu'r daith honno gyda chefnogwyr gartref a thu hwnt. Rydym yn falch o'n hymrwymiad hirdymor i bêl-droed Cymru - o lawr gwlad i'r timau cenedlaethol - a thrwy ein hymgyrch AmdanHi, rydym wedi ymrwymo i gefnogi Cymru ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr a chefnogwyr."
Meddai’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Jack Sargeant: "Mae hon yn foment nodedig i bêl-droed menywod Cymru ac mae'n braf gallu cyfrannu wrth i ni ddod ac ysbryd unigryw Cymru i'r Swistir. Bydd digwyddiad dathlu S4C yn rhoi ar lwyfan y byd nid yn unig ein talent chwaraeon, ond y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy'n gwneud Cymru mor arbennig.
"Mae bws cefnogwyr Cymru ar Daith, a ariennir gan Gronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru gwerth £1m, yn cynrychioli taith ein cenedl i'r bencampwriaeth hon – taith lawn penderfyniad, angerdd a thorri rhwystrau. Rwy'n gobeithio y bydd ein dathliad yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod Cymru i ddilyn eu huchelgais, boed ar y cae pêl-droed neu fel arall, gan ddangos y gall talent ac ysbryd Cymru ffynnu yn unrhyw le. Gan gofio geiriau Catatonia, ar adegau fel hyn yr ydym yn arbennig o ddiolchgar o fod yn Gymry!"
Bydd gêm agoriadol Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd yn fyw ar S4C o 16:30, gyda'r gic gyntaf am 17:00. Bydd holl gemau Cymru yn cael eu darlledu'n fyw ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer.
S4C yw'r unig ddarlledwr sy'n dangos pêl-droed menywod yn fyw ar draws pob lefel – o Adran Premier Genero a Thlws Adran Genero i Gwpan Cymru a'r tîm cenedlaethol.
Sioned Dafydd fydd yn cyflwyno darllediadau S4C, Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones yn dadansoddi gyda Dylan Ebenezer a'r sylwebydd Nic Parry yn cwblhau tîm cyflwyno S4C.
Yn ogystal â’r gweithgareddau ar lawr gwlad a’r darllediadau ar sgrin, mae’r Archdderwydd Mererid Hopwood wedi cydweithio gydag S4C a thair bardd arall – Esyllt Angharad Lewis, Tegwen Bruce-Deans a Meleri Wyn Davies – i gyfansoddi cyfres o gerddi arbennig i nodi taith Cymru yn Ewro 2025.
Bydd y cerddi’n cael eu darllen ar blatfformau cymdeithasol S4C ac yn ymddangos ar y sgrin yn ystod y twrnamaint.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.