CEIR cipolwg ar ganrif a mwy o hanesion ac arferion cefn gwlad mewn cyfrol hunangofiannol Arthur Gwynn Jones, sef Crefftwr Cefn Gwlad (Y Lolfa) sydd yn cyhoeddi'r wythnos yma.
Mae’r gyfrol yn drysorfa o hanesion llafar gan ŵr rhyfeddol.
Mae Arthur Gwynn Jones yn grefftwr dawnus sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am wneud ffyn.
Ac yntau ar drothwy ei ben-blwydd yn 90 oed, mae ganddo gof anhygoel am straeon ei deulu a’i gymuned wledig Gymreig.
Yn wreiddiol o bentref Cilcain, Sir y Fflint, lle treuliodd hanner cyntaf ei oes, symudodd i Lanbedrog, Llŷn a byw yno am dros chwarter canrif cyn dychwelyd i olwg Moel Famau ac ymddeol i Hendrerwydd, Sir Ddinbych.
Meddai: “Wrth edrych yn ôl, dwi’n sylweddoli cymaint mae bywyd wedi newid. Mi fues i’n llygad-dyst i gyfnod pan oedd bywyd traddodiadol cefn gwlad yn newid am byth.
“Mae llafur yr efail a’r siop saer wedi hen fynd, yr hel straeon wedi tawelu, a bwrlwm y capel a’r Ysgol Sul yn perthyn i oes arall erbyn hyn, ond braint yw cofio amdanynt.”
Yn sgil hanes bywyd Arthur Gwynn, ceir cipolwg ffraeth o fywyd ym mhentref Cilcain yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Ceir atgofion difyr am blentyndod yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’i waith fel crefftwr ac ymgymerwr angladdau.
Ceir hefyd straeon am yr ardal o gyfnod cynharach, sef cyfnod ei dad, cyfnod cyn dyfodiad dŵr tap, trydan a cheir, a hyn am ei fod wedi gweithio ochr yn ochr â dynion llawer yn hŷn nag ef a rhannu sgyrsiau difyr am gymeriadau oedd yn byw ymhell cyn iddo gael ei eni.
Meddai Gwyneth Edwards, ei ferch: “Mae’r casgliad yma yn drysorfa i ni fel teulu, ond gyda’i ddawn fel storïwr, gobeithio bydd y gyfrol yn diddanu ac o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach hefyd.”
Bydd Crefftwr Cefn Gwlad yn cael ei lansio’n swyddogol am 2 o’r gloch, prynhawn Sadwrn, 29 Mehefin yng Nghapel Cilcain, Sir y Fflint, trwy wahoddiad yn unig.