BYDD cystadleuaeth Côr y Byd, uchafbwynt Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol Llangollen yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C.
Dyma ddiweddglo i wythnos o gystadlu yn yr ŵyl sy’n croesawu cystadleuwyr o bedwar ban byd.
Bydd y gystadleuaeth yn ei darlledu yn ei chyfanrwydd o Bafiliwn Rhyngwladol Llangollen ar 6 Gorffennaf am 8yh.
Côr y Byd yw un o brif ddigwyddiadau'r ŵyl, ers i’r gystadleuaeth gael ei sefydlu yn 1987.
Mae enillwyr yng nghategorïau corawl yr Eisteddfod – y corau siambr, cymysg, meibion, merched ac agored - yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am deitl Côr y Byd, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol o £3,000.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni fydd Mervyn Cousins, Brian Hughes, Michel Camatte, Martin Fitzgerald, Sarah Tynan.
Bydd Nia Roberts yn cyflwyno’r rhaglen yng nghwmni dau arbenigwr cerddorol – yr arweinyddes gorawl a darlledwraig Catrin Angharad Jones ac Eilir Owen Griffiths.
Ffion Emyr fydd yn sgwrsio gyda’r corau gefn llwyfan wedi iddyn nhw berfformio.
Mae Eilir Owen Griffiths wedi arwain côr buddugol yng nghystadleuaeth Côr y Byd, a daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru eleni: “Yr hyn sydd wastad yn ddiddorol am Côr y Byd yw’r amrywiaeth o gorau sy’n cystadlu, a gobeithio bod eleni am fod yr un fath.
“Y prif beth mae’r beirniaid yn edrych amdano yn y gystadleuaeth yw nid yn unig y côr sy’n dechnegol gywir ond hefyd y côr sy’n mynd gam ymhellach wedi iddyn nhw gyrraedd y ffeinal.
“Mae ‘na bwysigrwydd i gydganu, ac mae corau’n dod a pobl at ei gilydd ar lefel lleol, cernedlaethol ac wrth gwrs rhyngwladol. Mae dathlu amrywiaeth a gwahanol ddiwylliannau yn ganolog i ethos Eisteddfod Llangollen ers ei chychwyn ym 1947 ac mae'r neges ganolog o undod a heddwch rhwng gwledydd mor amserol ag erioed.
“Ac fel cyn-Gyfarwyddwr Celf Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen dwi’n falch o gael y cyfle i sylwebu ar y gystadleuaeth bwysig yma.”
Bydd rhaglen Heno hefyd yn darlledu’n fyw o faes yr Eisteddfod Rhyngwladol o nos Fercher 3 Gorffennaf i nos Wener 5 Gorffennaf, gan ddod â fwrlwm, lliw a chystadlu’r Ŵyl.