Mae Craig Bellamy yn dweud ei fod yn benderfynol o barhau â gwaddol cyn-reolwr Cymru, Gary Speed, wrth iddo adlewyrchu ar y dylanwad gafodd Speed ​​ar ei yrfa mewn rhaglen ddogfen ecsgliwsif i S4C sydd yn rhoi portread agos a gonest o Bellamy, rheolwr tîm Pêl-droed Cenedlaethol Dynion Cymru.

Yn y rhaglen, mae Bellamy yn disgrifio eiliad hollbwysig pan wnaeth gweld murlun o Gary Speed ar y ffordd i Stadiwm Dinas Caerdydd gadarnhau ei benderfyniad i ddilyn ôl ei draed ac adeiladu ar y sylfeini a adawodd ar ei ôl.

Yn 2011, cafodd y byd pêl-droed ei syfrdanu gan y newyddion o farwolaeth sydyn Gary Speed yn 42 mlwydd oed.

“Y murlun yna – dyna oedd o,” dywedodd Bellamy. “Dyna beth wnaeth gadarnhau o i mi. Ac yn fy meddwl wedyn o’n i fel ‘dwi’n ‘neud hyn, dwi am wneud hyn. Dwi am orffen pethau.”

Mae Craig Bellamy: Byd Y Bêl A Mi ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o 23 Mawrth am 20:00, gydag isdeitlau hefyd ar gael.

Dywedodd Bellamy fod dylanwad Speed ​​wedi cael effaith barhaol arno:

“Dim ond am gyfnod byr roedd Gary yma ond roedd ei ddylanwad o’n fawr. Roedd ei ddylanwad o mor fawr. Roedd ganddo’r naws yna amdano.

“Ei ddylanwad o yw llawer o’r hyn sydd i’w weld gyda’r sefydliad a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Dwi’n gweld bod ein credoau ni’n reit debyg ac mae wedi rhoi awydd go iawn i fi am y gêm.”

Yn y rhaglen ddogfen, dywedodd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, sydd wedi chwarae o dan Bellamy:

“Neges Craig oedd i symud ymlaen gyda’r pethau oedden ni wedi dysgu gan Garry.”

Aeth Bellamy ymlaen i fod yn gapten ar Gymru ac mae bellach yn arwain y tîm fel rheolwr, gan adeiladu ar ei enw da fel arweinydd cryf.

Yn y rhaglen ddogfen, mae Joe Allen yn ei alw’n “ysbrydoliaeth i’r chwaraewyr ar y cae” a “osododd y safon o ran ymdrech”, tra bod Ben Davies, sydd bellach yn chwarae yn ei dîm, yn dweud:

“Mae Craig yn rheoli pobl yn dda. Y person yw’r peth mwyaf pwysig i Craig – nid dim ond y pêl-droed.”

Gan ddod â'r un brwdfrydedd i hyfforddi ac arwain, mae Bellamy yn adlewyrchu ar y cam nesaf yma yn ei yrfa:

“Rwy'n mwynhau hyn. Dim amheuaeth. A dwi’n mynd i fwynhau dim ots lle mae'n mynd â fi - colli, ennill, gemau cyfartal - does dim ots gen i lle mae'r ffordd yn mynd, ond rwy’n mynd i fwynhau pob eiliad.”

Dros y 12 mis diwethaf, mae Craig a thîm Cymru wedi bod yn ceisio sicrhau lle yng Nghwpan y Byd FIFA 2026. Fe fydd Cymru yn wynebu Bosnia a Herzegovina yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle ar ddydd Iau 26 Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Os ydyn nhw’n fuddugol, fe fyddent yn wynebu naill ai Yr Eidal neu Gogledd Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Bydd y ddwy gêm yn cael eu darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.