DOEDD James Cuff ddim yn gallu siarad Cymraeg nac yn gwybod llawer am gerddoriaeth Gymraeg nes iddo deithio i’r Ewros yn 2016 i gefnogi tîm Cymru.

Yng nghanol cyffro’r cystadlu, dechreuodd deimlo ychydig o gywilydd ac yn drist nad oedd yn gallu siarad Cymraeg – a phenderfynodd y basai’n hoffi dysgu’r iaith.

Mewn ychydig o flynyddoedd, roedd hi’n amser dewis ysgol i’w blentyn hynaf, Amelie. Penderfynodd ef a’i wraig y basen nhw’n hoffi iddi fynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. A dyna pryd y dechreuodd James ddysgu Cymraeg.

Tua’r un adeg, daeth ar draws grwpiau Cymraeg newydd fel Los Blancos, Alffa ac Adwaith trwy raglen Elis James a John Robins ar BBC Radio 5 Live. Roedd yn agoriad llygad iddo.

Dywedodd: “Ar ôl clywed rhai o’r bandiau Cymraeg newydd, gwnes i a fy ffrind gychwyn podlediad i ddathlu cerddoriaeth Gymreig – ro’n i eisiau rhannu cerddoriaeth hen a newydd gyda phobl eraill, yn enwedig cerddoriaeth Gymraeg.

“Drwy’r podlediad, dw i wedi cael cyfweld â rhai o hoelion wyth cerddoriaeth Gymraeg fel Yws Gwynedd, Pat Datblygu, Rhys Mwyn a bois y Super Furries. Mae pawb wedi bod mor gefnogol – Yws yn arbennig. Agorodd amryw o ddrysau i mi sgwrsio gyda gwahanol bobl o fewn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

“Dw i hefyd yn sgwennu erthyglau am gerddoriaeth Gymraeg i ffansîn pêl-droed, Alternative Wales. Pan fuodd Emyr Ankst farw, ro’n i eisiau ysgrifennu erthygl yn Saesneg amdano gan fod ’na gymaint yn cael ei ddweud yn Gymraeg – ac mi ges sgwrs gyda Gruff Rhys, Lisa Gwilym, Mark Roberts, Efa Supertramp, Alun Llwyd a Geraint Jarman yn hel atgofion amdano.”

Mae James yn teimlo bod cerddoriaeth Gymraeg wedi ei helpu yn ystod ei daith i ddysgu Cymraeg.

Meddai: “Mae cerddoriaeth wedi bod y peth gorau i mi ddeall sut mae pobl yn siarad Cymraeg ar y stryd.

“Oherwydd hynny, mae fy Nghymraeg i’n gymysg iawn ac yn cynnwys geiriau dw i wedi eu dysgu gan fandiau ym mhob cwr o Gymru! Mae gen i ambell i air dw i wedi ei ddysgu o Gwm Gwendraeth hefyd gan fy mod i’n gwylio Pobol y Cwm!”

Yn ogystal â cherddoriaeth Gymraeg, mae James yn caru bod yng nghanol diwylliant Cymraeg, ac yn mwynhau dysgu am hanes Cymru.

Ychwanegodd: “Dw i’n caru siarad Cymraeg a dw i’n teimlo mod i wedi colli allan yn yr ysgol gan na wnes i ddysgu dim am hanes Cymru, dim ond hanes ‘Prydeinig’.

“Erbyn hyn, dw i’n gwybod llawer mwy am hanes Cymru gan gynnwys hanes boddi Capel Celyn, protestiadau Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan a’r bobl sydd wedi brwydro dros yr iaith – pobl fel Saunders Lewis.

“Mae gen i gymaint o barch at y bobl yma – ac mae’n anodd meddwl, pan o’n i’n ifanc, nad oeddwn i’n gwybod dim amdanynt.”

Yn ogystal â’r podlediad a’r erthyglau am gerddoriaeth Gymraeg, mae gan James amryw o brosiectau eraill ar y gweill.

Mae’n cynllunio app fyddai’n gallu darllen eich hanes gwrando ar Spotify a chynnig caneuon tebyg, a gwefan fyddai’n annog ac yn helpu rhieni sydd wedi dewis addysg Gymraeg i’w plant i siarad ychydig o Gymraeg yn y cartref.