ERS rhai blynyddoedd mae Cymdeithas Cymru-Ariannin wedi cyhoeddi ysgoloriaeth ar Fai yr 28ain, sef y dyddiad pan hwyliodd y Mimosa i Batagonia yn 1865. Mae’n ysgoloriaeth ar gyfer oedolion sy’n byw yn nhalaith Chubut, yr Ariannin.

Bwriad yr ysgoloriaeth yw galluogi unigolyn sy’n byw yn Chubut i ddod i Gymru i wella a datblygu sgiliau mewn maes ymarferol cydnabyddedig trwy gyfrwng y Gymraeg, e.e. mewn cerddoriaeth, celf, dawns, coginio, twristiaeth, ffotograffiaeth ac ati. Enillydd yr ysgoloriaeth yn 2024 oedd Ariela Gibbon, athrawes dawnsio gwerin yn Ysgol Gerdd y Gaiman.

Yr wythnos hon, bydd Ariela yn hedfan o Batagonia i Gymru gyda phedwar disgybl o Goleg Camwy, y Gaiman sef Carolina, Emilia, Morena ac Ian.

Bydd Ian hefyd yn cael y fraint o fod yn rhan o griw TwmpDaith eleni.

Eluned Jones (chwith) a Llinos Howells
Eluned Jones (chwith) a Llinos Howells (Cymdeithas Cymru-Ariannin)

Maen nhw’n rhan o grŵp dawns Ysgol Gerdd y Gaiman. Bydd Carolina yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Sadwrn ar y ddawns unigol dan 19 a Morena ar y llefaru dan 19 yn enw Coleg Camwy.

Eu breuddwyd erioed oedd cael dod i Gymru i siarad Cymraeg ac i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Cafodd y daith ei chydlynu’n bennaf gan Llinos Howells, Merthyr Tudful, fu’n athrawes Gymraeg yn Nyffryn Camwy rhwng 2023 a 2024; ac Eluned Jones, Capel Newydd, Sir Benfro sy’n gyn-athrawes yn y Wladfa ac wedi treulio cyfnodau yn yr Ariannin. Mae’r ddwy yn aelodau o bwyllgor gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin.

Meddai Llinos: “Rydw i wrth fy modd fod y bobl ifanc yn cael y cyfle i ddod i Gymru am y tro cyntaf.

“Mi fyddan nhw’n teithio Cymru pan fyddan nhw yma.

“Maen nhw wedi paratoi perfformiad cyffrous fydd yn cychwyn gyda’r Indiaid brodorol a’u cyfeillgarwch gyda’r Cymry, dawns Samba, cân Tango, clocsio Cymreig, dawns draddodiadol o’r Ariannin: La chacarera a llefaru’n Gymraeg i orffen.

“Mi fyddan nhw’n perfformio ar stondin y Coleg Cymraeg, brynhawn dydd Llun am 4:30pm ar faes yr Eisteddfod.”

Ategodd Eluned: “Rydw i’n hynod falch fod Ian wedi ei ddewis i fod yn rhan o griw TwmpDaith 2026.

“Mae o o gefndir amaethyddol ac yn gyffrous iawn at gael aros ar ffermydd yng Nghymru, a bydd yn gyfle gwych iddo ymarfer ei Gymraeg.”

Bydd Cymdeithas Cymru-Ariannin yn lansio Ysgoloriaeth Michael D Jones 2026 yn ystod mis Mehefin eleni. Cynigir ysgoloriaeth gwerth £3,000.