WEDI’I lansio fel rhan o S4C Miwsig, mae Stiwdio 24/7 yn gyfres newydd ar S4C yn rhoi llwyfan i fandiau ac artistiaid cyffrous y sîn gerddorol Gymraeg sydd wedi rhyddhau deunydd newydd.

Yn y bennod gyntaf, bydd perfformiadau gan y band ifanc o’r gogledd, Cyn Cwsg, a’r band Taran o Gaerdydd gyda Rose Datta fel y prif leisydd, yn ogystal â sgwrs a chân gan Ani Glass yn dilyn rhyddhau ei hail albwm, Phantasmagoria.

Bydd gweddill y gyfres yn cynnwys artistiaid fel Gruff Rhys, Candelas, Mali Hâf, Sage Todz, Mr Phormula, Buddug a llawer mwy.

Y DJ o Gwmaman, Molly Palmer, sy’n cyflwyno’r gyfres ac mae’n croesawu rhaglen fel hyn oherwydd bod cerddoriaeth mor bwysig iddi.

Ani Glass a Molly Palmer
Ani Glass a Molly Palmer (S4C)

“I fi, cerddoriaeth yw popeth,” dywedodd Molly, “Pan o’n i’n tyfu lan, roedd cerddoriaeth wastad yn ran enfawr o fy mywyd i. Fi’n deffro yn y bore a fi’n gwrando ar y radio, fi yn y car dwi’n gwrando ar gerddoriaeth, dwi’n mynd mas am dro a mae headphones mlaen ‘da fi.

“Fi’n DJ felly rwy’n gweithio o gwmpas cerddoriaeth trwy’r amser felly, i fi, mae’n fraint cael y cyfle i gyflwyno rhywbeth sydd mor bwysig i fi a rhywbeth sydd yn rhan mor enfawr o fy mywyd i.”

Mae Stiwdio 24/7 yn rhan o lwyfan ehangach S4C Miwsig a lansiwyd wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst gyda gig rhithiol gyntaf yn y Gymraeg gyda Dom a Lloyd.

Yn ogystal â’r gyfres hon, fel rhan o’r platfform, mae’r fodcast newydd, Maes Fi, gyda’r cyflwynydd a’r DJ o Gaerdydd, Elan Evans, a bydd Ifan Siôn Davies, prif leisydd y band Sŵnami yn gwahodd 3 band neu artist adnabyddus i berfformio a rhoi bywyd newydd i hen ffefryn ar 3 Cân.

Mae Stiwdio 24/7 i'w gweld ar S4C ar nos Wener 24 Hydref am 8.25, ac ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.