AR daith ddiweddar i orllewin Affrica, mae cyn-seren rygbi rhyngwladol Cymru, Nathan Brew, yn ymweld â chartref cyndeidiau ei dad, Castle Brew, ar yr Arfordir Aur yn Ghana.
Mae'r 'castell' yn edrych dros gaer a ddefnyddiwyd i ddal caethweision mewn celloedd. Dyma oedd busnes ei hynafiaid.
Mae Nathan Brew, a gafodd yrfa lwyddiannus yn chwarae rygbi i Gymru, y Scarlets, y Dreigiau a Bryste, wastad wedi gwybod y bu ei gyn-daid, Richard Brew, yn fasnachwr caethweision.
Medd Nathan cyn dechrau ar ei daith: "Mae'n rhan o hanes ein teulu. Mae yn y gorffennol, amser maith yn ôl, felly mae'n hawdd teimlo ychydig yn bell wrtho. Fi yw ei ddisgynnydd e, ond doedd gen i ddim teimladau cryf am Richard Brew mewn gwirionedd."
Cafodd taith Nathan ei weld mewn rhaglen arbennig: Nathan Brew: Caethwasiaeth a Fi fydd ar S4C yr wythnos yma, fel rhan o Fis Hanes Pobl Ddu, ac mae ar gael ar S4C Clic.
Mae ei chwaer Rachel a'u tad Collins yn ymuno â Nathan. Mae'r daith yn mynd â Nathan i Lerpwl a Llundain i ddeall y fasnach gaethweision yn well a sut y bu i Gymru a rheolaeth drefedigaethol Brydeinig elwa ohono, cyn i'r tri hedfan allan i Ghana.
Mae Nathan yn cwrdd â hanesydd arbenigol, Malik Al Nasir, sy'n ei rybuddio: "Hwn oedd y busnes fwyaf brwnt y mae dynoliaeth erioed wedi ei weld.
“Mae angen i chi baratoi'ch hun yn emosiynol ar gyfer y daith rydych chi ar fin cychwyn arni oherwydd fe welwch rai o'r pethau mwyaf ofnadwy y gallwch chi eu dychmygu."
Erbyn diwedd y daith, medd Nathan: "Cwrddais â phobl addysgiadol iawn a dysgais lawer. Roeddwn i'n disgwyl dysgu, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor farbaraidd ac annynol oedd y cyfan, a bod yr economi yn dibynnu ar y fasnach gaethweision.
“Mae wedi agor fy llygaid ac wedi fy ngwneud i'n emosiynol iawn.
"Roedd cwrdd â’r newyddiadurwr Laura Trevelyan sydd hefyd yn ddisgynnydd i fasnachwr caethweision yn gysur bach. Fel fi mae Laura yn credu bod caethwasiaeth yn staen ar enw ein teulu."
Mae Laura Trevelyan wedi helpu i sefydlu Heirs of Slavery, sefydliad dan arweiniad pobl y mae eu hynafiaid wedi elwa o gaethwasiaeth drawsatlantig.
Mae Laura hefyd yn rhybuddio Nathan o'i daith: "Gallaf i ond dychmygu y bydd yr ymweliad yn achosi gofid mawr, i fod mewn caer gaethweision, i ddychmygu bod dy gyn-daid, Richard Brew, wedi elwa o'u carcharu yn y gaer ac yn trin pobl fel anifeiliaid."
Mae Nathan yn dysgu sut y symudodd ei gyndaid, Richard Brew, o Iwerddon yn 1745 a phriodi i un o deuluoedd llwythol mwyaf dylanwadol Ghana.
Arweiniodd ei briodas â merch John Curantee – pennaeth llwyth y Fante – at gyflenwad toreithiog o gaethweision wedi'u herwgipio.
Daeth Brew yn un o fasnachwyr caethweision mwyaf dylanwadol a phwerus Affrica. Bu farw yn ei gastell moethus yn 1776.
Mae ymweld â chaer Anomabu yn dod â'i barbariaeth, ei chreulondeb a’r rhan chwaraeodd cyndeidiau Nathan ynddi yn fyw, a chyda hi emosiynau amrwd.
Mae Rachel yn esbonio sut mae ei chalon yn brifo wrth weld y dwnsiwn a’r fan ble byddai plant mor ifanc â chwech oed yn cael eu cadw i ffwrdd o'u teuluoedd mewn tywyllwch llwyr.
Meddai Nathan: "Roeddwn i'n stryglan rhoi mewn i eiriau y teimladau ar ôl gweld a chlywed pethe heddiw.
“Pan yn ystyried y rhan enfawr wnaeth fy nghyn deidiau chwarae yn yr holl beth, mae hwnna’n hala fi’n grac a gydag elfen mawr o siom.
“O’n i’n disgwyl cael gwers, ond do’n i ddim wedi sylweddoli pa mor barbaraidd ac annynol oedd yr holl beth, a’r ffaith bod economi yn ddibynnol ar y busnes caethweision. Mae e’n rhywbeth sydd wedi agor fy llygaid a gwneud fi’n emosiynol.”