MAE Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad i’r Gymraeg.
Mewn seremoni wobrwyo ddydd Mercher 4 Rhagfyr, cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2024 wedi iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y brifysgol.
Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, gwobrwywyd yr enillwyr ar gyfer y gwobrau canlynol:
- Dysgwr Disglair (Staff) – Vicki Jones
- Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Dr Hanna Binks a Dr Lloyd Roderick
- Astudio trwy’r Gymraeg (Myfyriwr) – Ellie Norris
- Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Celyn Bennett
- Cefnogi’r Gymraeg yn y Gweithle – Tîm Swyddfa Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
Dyfarnwyd Gwobr Arbennig y Panel i Elain Gwynedd, Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA am ei holl waith yn hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn y Brifysgol.
Derbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan naill ai’r Athro Mererid Hopwood, Dr Eurig Salisbury (Darlithydd Ysgrifennu Creadigol o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd), neu Dr Hywel Griffiths, (Darllenydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol).
Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Dr Gwawr Taylor, Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg: “Dathlwn heddiw gyfraniad arbennig unigolion i ddysgu a hybu’r Gymraeg yn y Brifysgol. Mae eu hymroddiad a’u brwdfrydedd yn ysgogi ac yn ysbrydoli staff a myfyrwyr ar draws cymuned y Brifysgol. Diolch i chi gyd am eich gwaith diflino a’ch ymrwymiad i’r Gymraeg.”
Yr Enillwyr
Vicki Jones (Dysgwr Disglair): Wedi ei geni yn Neston, yr Wirral, symudodd Vicki i Gymru i bentref Coedpoeth, Wrecsam pan yn 10 oed gan glywed y Gymraeg am y tro cyntaf yn cael ei siarad yn y gymuned yno.
Yn dilyn gweithio mewn nifer o leoliadau gwaith yn ardal Wrecsam, cyfarfu â Gareth, ei gŵr gan symud i Geredigion ac ymgartrefu yno gan ddechrau gweithio i Brifysgol Aberystwyth.
Chwe blynedd yn ôl gyda’i gŵr a’i meibion yn siaradwyr Cymraeg, dechreuodd ddysgu Cymraeg o ddifri gan fynychu dosbarthiadau cymunedol a chyrsiau Cymraeg Gwaith.
Yn ogystal â bod yn gymorth yn y gwaith, mae’r Gymraeg wedi bod o fudd mawr i Vicki yn y gymuned.
Mae hi bellach yn cynorthwyo mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys yr Eisteddfod yng Nghwm Ystwyth.
Vicki hefyd sy’n gyfrifol am lunio posteri dwyieithog ar gyfer digwyddiadau ac mae’n gyswllt ardal i Bapur Bro y Ddolen. Ymddeolodd yn yr haf, wedi bron 30 mlynedd yn gweithio i’r Brifysgol.
Dr Hanna Binks (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Yn enedigol o Aberystwyth, dychwelodd Hanna i’r ardal yn 2017 yn dilyn cael ei phenodi yn Ddarlithydd Cyswllt yn Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth.
Penodwyd yn ddarlithydd gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn yr Adran yn 2019 ac mae wedi gweithio yn ddiflino i ddatblygu cyfleoedd astudio a hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr Adran.
Mae Hanna yn angerddol dros y Gymraeg ac yn teimlo fod Seicoleg yn faes pwysig yn gymdeithasol. Mae hi’n awyddus i ddatblygu’r ddarpariaeth ymhellach gan gynnwys prosiectau a chynlluniau ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dr Lloyd Roderick (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Wedi ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg ac yn hanu’n wreiddiol o Lanelli gyda chefndir ym maes Celf a Llyfrgellyddiaeth, symudodd Lloyd yn wreiddiol i Aberystwyth i gwblhau gwaith ymchwil ar un o gasgliadau Celf y Llyfrgell Genedlaethol.
Yn 2015, penodwyd ef yn Llyfrgellydd Pwnc yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth gan weithio yn benodol gydag Adrannau’r Gyfraith, y Gymraeg, Hanes a Chelf gan gefnogi myfyrwyr a staff gyda chasgliadau, ymchwil ac adnoddau.
Mae’r Gymraeg yn holl bwysig i Lloyd ac mae’n awyddus i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’i waith yn y Brifysgol. Mae’n gweld y Gymraeg yn rhan rwydwaith ieithoedd byd eang a thrwy ei waith a’i gyflwyniadau mae’n ei hyrwyddo ac yn annog ei defnydd ymhlith staff a myfyrwyr.
Ellie Norris (Astudio trwy’r Gymraeg): Mae Ellie yn fyfyrwraig yn Adran y Gyfraith a Throsedd yn astudio gradd mewn Troseddeg.
Yn enedigol o Aberdâr, magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg a dysgodd y Gymraeg yn yr ysgol gynradd.
Penderfynodd fynychu Prifysgol Aberystwyth am ei bod am astudio mewn ardal ble mae’r Gymraeg i’w chlywed yn cael ei siarad yn y gymuned.
Mae’n llysgennad i rwydwaith Cymru sy’n ystyriol o drawma ac yn awyddus i wella’r systemau cyfathrebu yn y Gymraeg.
Mae hefyd yn dymuno bod yn llysgennad ar gyfer Adran y Gyfraith a Throseddeg er mwyn hybu a hyrwyddo astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn dilyn cwblhau ei chwrs gradd, mae Ellie yn awyddus i fod yn dditectif neu yn seicolegydd fforensig.
Celyn Bennett (Pencampwr y Gymraeg): Mae Celyn yn astudio Gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn wreiddiol o ardal Bryste, fe’i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg a chlywodd yr iaith gyntaf pan yn pum mlwydd oed.
Symudodd i Drefynwy pan yn 11 oed gan fynychu Ysgol Gyfun Trefynwy, a chwblhau TGAU a Lefel A Cymraeg ail iaith.
Mae’r Gymraeg yn hollbwysig i Celyn ac mae’n weithgar iawn yn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi myfyrwyr eraill sy’n ei dysgu.
Ar hyn o bryd mae’n Llywydd Myfyrwyr Llafur Aberystwyth ac yn ymdrechu i sicrhau bod pob dim yn ddwyieithog gyda’r gymdeithas. Wedi iddi raddio, mae Celyn yn awyddus i ddilyn gyrfa ym maes cynllunio Cymraeg.
Tîm Swyddfa Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (Cefnogi’r Gymraeg yn y gweithle): Mae Tîm staff Swyddfa Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnal a chefnogi’r Gymraeg yn y Gyfadran.
Mae’r staff yn darparu arweiniad, cefnogaeth weinyddol a rheolaethol ar lefel Adran, Ysgol a Chyfadran trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer staff ac aelodau’r Gyfadran.
Mae’r holl dîm yn ymroddedig i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob sefyllfa gan annog ei defnydd a datblygu cyfleoedd yn ffurfiol ac anffurfiol.
Elain Gwynedd (Gwobr Arbennig y Panel): Wedi ei magu yn ardal Porthaethwy, Ynys Môn, mynychodd Ysgol Gynradd Llanfair Pwll ac yna Ysgol Syr David Hughes.
Yn 2020, daeth Elain i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg gan raddio yn 2023.
Trwy gydol ei chyfnod yn y Brifysgol, mae wedi bod yn weithgar iawn dros y Gymraeg yn trefnu digwyddiadau, a chefnogi a hybu’r iaith.
Bu’n Swyddog Cyhoeddiadau Cymdeithasol UMCA a thrysorydd Aelwyd Pantycelyn 2021-22; yn Llywydd y Geltaidd ac Is-Lywydd UMCA yn 2022-23. Cafodd ei hethol yn Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn 2023 ac yn 2024 cafodd ei hethol eto i’r swydd hon am ail flwyddyn.
Mae’n angerddol dros y Gymraeg ac yn ystod ei chyfnod fel Llywydd UMCA, llwyddodd myfyrwyr Aberystwyth i ennill yr Eisteddfod Rhyngolegol am y tro cyntaf ers naw mlynedd, dathlwyd hanner can ‘mlwyddiant UMCA, ac yn ystod haf 2024 cymeradwywyd cynnig Elain i newid enw’r Undeb o Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Students’ Union i Undeb Aberystwyth.
Mae’r Gymraeg yn ganolbwynt yn ei bywyd a’i nod yw sicrhau bod yr iaith yn llewyrchu ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig: Yn ogystal â dyfarnu’r gwobrau uchod, cyflwynwyd Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig gan y panel i’r myfyrwyr James Fennell, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Cai Phillips, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac i’r aelodau staff Philip Bowling, Cofrestrfa Academaidd a Sharon King, Ysgol Gwyddor Filfeddygol am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.