MAE rhestr fer caneuon ar gyfer Cân i Gymru 2025 wedi cael ei chyhoeddi.
Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno'r gystadleuaeth fydd yn cael ei chynnal yn Dragon Studios, Pen-y-bont ar Ogwr ar nos Wener 28 Chwefror 2025.
Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr yw cadeirydd panel y beirniaid a fydd yn mentora'r cystadleuwyr ac yn cyflwyno tlws Cân i Gymru i'r cyfansoddwr buddugol.
Y beirniaid yw’r cerddor Peredur ap Gwynedd; y gantores, actores a chyflwynydd Caryl Parry Jones, y rapiwr a chyfansoddwr Sage Todz a’r gantores a’r gyfansoddwraig Catty.
Y gwylwyr sy'n gyfrifol am ddewis cân fuddugol cystadleuaeth Cân i Gymru drwy bleidleisio am eu hoff gân.
Bydd proses bleidleisio newydd eleni a bydd y manylion yn cael eu rhannu yn ystod yr wythnos cyn y gystadleuaeth.
Mi fydd cyfansoddwr y gân fuddugol hefyd yn derbyn £5,000 a chytundeb perfformio, gydag ail wobr o £3,000 a thrydedd gwobr o £2,000.
Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu yw:

1 : Troseddwr yr Awr
Cyfansoddwyr : Dros Dro
Cantorion : Dros Dro

2 : Am Byth
Cyfansoddwr : Geth Vaughan
Canwr : Lewys Meredydd

3 : Torra Dy Gwys
Cyfansoddwyr : Elfed Morgan Morris, Carys Owen, Emlyn Gomer Roberts
Canwr : Catrin Angharad Jones

4 : Gwydr Hanner Llawn
Cyfansoddwr : Garry Owen Hughes
Canwr : Garry Owen Hughes

5 : Mae’r Amser Wedi Dod
Cyfansoddwyr : Heledd a Mared Griffiths
Cantorion : Heledd a Mared Griffiths

6 : Lluniau Ar Fy Stryd
Cyfansoddwr : Meilyr Wyn
Canwr : Gwen Edwards

7: Hapus
Cyfansoddwr : Geth Vaughan
Canwr : Geth Vaughan

8 : Diwedd y Byd
Cyfansoddwr : Marc Skone
Canwr : Marc Skone
Bydd yr holl ganeuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru o 18 Chwefror ymlaen.
Fe fydd modd i wylwyr adref ddilyn yr hanes ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #CiG2025.