BYDD taith ddiwylliannol wythnos o hyd ar draws gorllewin Cymru yn nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf yr haf hwn. Bydd Carreg Filltir Las: Taith Yr Arglwydd Rhys yn teithio trwy drefi a phentrefi lleol cyn cyrraedd pen ei daith yng Nghastell Aberteifi lle bydd dathliad cyhoeddus.
Wedi’i ddisgrifio fel ‘gorymdaith enfawr a dathliad trochol’, bydd yr Arglwydd Rhys – sylfaenydd y traddodiad sy’n parhau hyd heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol – yn deffro yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi ar 19 Mehefin. O’r fan honno bydd yn teithio i leoliadau sy’n gysylltiedig â beirdd cadeiriog yr Eisteddfod, gyda seremonïau safle-benodol wedi’u creu gyda chymunedau lleol a fydd yn cynnwys y bardd Ceri Wyn Jones, y cerddor Mari Mathias, a’r perfformiwr Eddie Ladd.
Canolbwynt y prosiect fydd gorymdaith drwy strydoedd Aberteifi ar 27 Mehefin, dan arweiniad pyped enfawr o’r Arglwydd Rhys wedi’i greu gan Theatr Byd Bach, a’i gi Teifi wedi’i greu gan Skeleton Crew. Bydd yr orymdaith yn dod i ben ar y cei, lle bydd beirdd cyfoes a chadair Eisteddfod eleni yn cyrraedd ar flotilla ar yr afon, a’r goron ar gefn ceffyl, cyn i gynulleidfaoedd gael eu harwain i’r castell ar gyfer dathliad celfyddydol ar raddfa fawr i nodi 850 mlynedd o draddodiad.
Dywedodd Marc Rees, arweinydd creadigol y prosiect, fod y pen blwydd yn cynnig cyfle prin: “Rydw i wedi gwirioni fy mod wedi cael fy ngofyn i helpu i lunio’r garreg filltir hon. Mae fy ngwaith yn ymateb i safleoedd a chymunedau ac yn ail-ddychmygu digwyddiadau hanesyddol trwy lens gyfoes, aml-gelfyddydol. Mae’r pen blwydd yma’n gynfas i anrhydeddu gwaddol yr Arglwydd Rhys, ac rwy’n edrych ymlaen i ddod â’r foment hanesyddol hon yn fyw.”
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Gan ddod â chymuned, treftadaeth a pherfformiad cyfoes ynghyd, mae Carreg Filltir Las: Taith Yr Arglwydd Rhys yn argoeli i fod yn ddathliad pwerus o’r Eisteddfod Genedlaethol, gan anrhydeddu ei gwreiddiau wrth edrych ymlaen at ei dyfodol.”
Yn 1176, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd gynulliad hanesyddol yn ei gastell newydd yn Aberteifi lle cystadlodd beirdd, cerddorion a pherfformwyr am anrhydedd y gadair farddol. Sefydlodd yr achlysur hwn draddodiad sy’n parhau hyd heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gŵyl deithiol ddiwylliannol fwyaf Ewrop sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, y celfyddydau a threftadaeth.
Dyddiadau a lleoliadau’r daith:
- Dydd Gwener 19 Mehefin — Tŷ Ddewi ac Oriel y Parc
- Dydd Sadwrn 20 Mehefin — Cenarth a Chastell Newydd Emlyn
- Dydd Sul 22 Mehefin — Talgarreg a Llangrannog
- Dydd Iau 25 Mehefin — Wdig
- Dydd Gwener 26 Mehefin — Maenclochog
- Dydd Sadwrn 27 Mehefin — Aberteifi





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.