CYNHALIWYD Oedfa arbennig yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod, Nos Sul Hydref, 6ed, ysgrifenna Beti Griffiths.
Nid yn unig roedd hon yn Oedfa Ddiolchgarwch ond yn Oedfa i longyfarch un o bobl ifanc disglair yr ardal sef Nest Jenkins, Fferm Ynysforgan ar ennill Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn y Brifwyl eleni.
Nid yw’r llwyfan yma yn ddieithr i Nest gan iddi ennill y Rhuban Glas Offerynnol i Ieuenctid yno rai blynyddoedd yn ôl.
Wedi croesawu tyrfa deilwng o deulu a ffrindiau ynghyd daeth Dafydd Caeo Watkin ymlaen i gyflwyno’r emyn cyntaf, Cerddwn ymlaen i’r yfory… (Parch Peter Thomas).
Yna, darllenodd Rhiannon Parry ‘Salm y Genedl’ (Jenny Eirian Davies) cyn i’r Parch John Roberts (Radio Cymru) arwain mewn gweddi.
Mae Nest bellach yn un o’i gyd-weithwyr ar y rhaglen Bwrw Golwg.
Daeth un arall o dalentau’r ardal i roi datganiad sef Efan Williams cyn i’r Athro Ioan Williams gyflwyno anrheg i Nest sef darn o grefftwaith cywrain (Colograff) o waith Marian Haf, un arall a fagwyd yn yr ardal.
Roedd y geiriau ar y darlun yn addas iawn o gofio’r amgylchiad: “O bydded i’r heniaith barhau.” Mared Parry gyflwynodd dusw o flodau lliwgar i Nest ar ran y plant.
Ymatebodd Nest yn ei ffordd wylaidd arferol ac yn ddiolchgar am bob cefnogaeth.
Uchafbwynt y noson fu clywed Nest yn llefaru un o’r darnau a lefarodd yn y Brifwyl sef ‘Ffenest at y Fynwent’ allan o ‘Stafell fy Haul’ Manon Rhys.
Yma, mae Manon yn dwyn i gof ddyddiau ieuenctid pan oedd ei thad: Kitchener Davies, yn ddifrifol wael yn ei ystafell wely yng Nghwm Rhondda ac er y tristwch yn dod â gwen i’r wyneb wrth rannu’r atgofion am wyliau yn Aberystwyth yn cerdded y prom , ac yn cofio’r ‘Laughing Policeman ar y Pier, ‘Ha-ha-ha-ha-ho-ho-!Oh! I’ll laugh until I die!’
Braf fu gwrando hefyd ar Megan (Sarnau Fawr gynt) a chyfnither i Nest yn cyflwyno englyn i’w llongyfarch:
Gydag wyneb sy’n gohebu,-a llais
sy’n rhoi lliw a denu ,
dy eiriau sy’n dy yrru
a’r gran sydd yno mor gry.
Derbyniwyd englyn hefyd oddi wrth y Prifardd Jim Parc Nest, y cyn-Archdderwydd a chyn-enillydd Gwobr Llwyd o’r Bryn yn ogystal â phriod yr awdur, Manon Rhys.
Cof Manon ddaeth yn onest,- o eiriau
dy enaid mewn gorchest,
anerchwn nawr dy orchest
ein bri ni yw dy wobr, Nest.
Caiff Nest ei hyfforddi gan Elin Williams, Llanbedr Pont Steffan a enillodd Wobr Goffa Llwyd o’r Bryn ei hun ym Mhrifwyl y Bala yn 2009.
I orffen y noson, cyflwynodd Efan Betts, un o ieuenctid yr eglwys eiriau emyn mawr Lewis Valentine Dros Gymru’n gwlad, O Dad dyrchafwn gri, cyn i bawb gyfranogi o’r lluniaeth blasus oedd wedi cael ei baratoi gan ffrindiau.
Bu’n Nos Sul i gofio a llongyfarch. Dymunwyd yn dda i Nest yn ei gyrfa ym myd y cyfryngau ac yng ngeiriau un o edmygwyr mawr Llwyd o’r Bryn, Gerallt Lloyd Owen.
“Arweiniaist blant y bryniau,- a rhoddaist Ruddin yn eu gwreiddiau”.
Diolch am y rhuddin.
Dal ati! rydym yn falch ohonot yn Lledrod a diolch iti am gofio dy filltir sgwâr.