MAE EP newydd o ganeuon am Geredigion hab blant y sir wedi cael ei rhyddhau.
Daw hyn yn dilyn llwyddiant prosiect diweddar y Siarter Iaith gan Llywodraeth Cymru yng Ngheredigion, lle bu beirdd a cherddorion yn cydweithio â disgyblion ysgolion cynradd Ceredigion i gyfleu eu hardaloedd mewn cân. Bydd y caneuon hynny ar gael i wrando arnynt a’u lawrlwytho o blatfformau digidol gan gynnwys PYST a Spotify.
Dyma’r traciau ar yr EP:
Golau Ein Cynefin gan ddisgyblion cynradd cylch Aeron. Geiriau: Dwynwen Llywelyn. Alaw: Mei Gwynedd.
Trwy Lygaid Barcud gan ddisgyblion cynradd gogledd cylch Aberystwyth. Geiriau: Arwel Rocet Jones. Alaw: Mei Gwynedd.
Dewch Am Dro i'r Dref gan ddisgyblion cynradd de cylch Aberystwyth. Geiriau: Arwel Rocet Jones. Alaw: Mei Gwynedd.
Ein Patshyn Ni gan ddisgyblion cynradd cylch Llanbed a Thregaron. Geiriau: Enfys Hatcher Davies. Alaw: Mei Gwynedd.
Teithio'r Teifi gan ddisgyblion cynradd cylch Llandysul ac Aberteifi. Geiriau: Ceri Wyn Jones. Alaw: Mei Gwynedd.
Dreigiau Coch gan ddisgyblion ysgolion trosiannol (T2) Ceredigion. Geiriau ac alaw: Mr Phormula.
Dywedodd Anwen Eleri Bowen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg mewn Ysgolion ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae wedi bod yn bleser llwyr i gydweithio â'r disgyblion, y beirdd a’r cerddorion ar y prosiect cyffrous hwn.
“Mae heddiw yn destun balchder a llawenydd gan ein bod drwy gyfrwng cerddoriaeth yn medru rhannu cariad ein disgyblion tuag at y fro a'r iaith.
“Mae wedi bod yn brofiad arbennig i'r disgyblion i gael dweud eu bod wedi bod yn rhan o greu'r caneuon, y recordio a rhyddhau EP sydd ar gael yn fyd-eang.”
Rhaglen genedlaethol gan Llywodraeth Cymru yw'r Siarter Iaith i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae'r Siarter Iaith ar waith ym mhob un o ysgolion Ceredigion. Bwriad y rhaglen yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.