MAE S4C wedi dechrau’r flwyddyn newydd gyda chlec wrth i’r ail gyfres o’r ddrama heist boblogaidd, Dal y Mellt ddychwelyd i’r sgrin.
Cyrhaeddodd y gyfres gyntaf garreg filltir nodedig pan ddaeth hi’n ddrama iaith Gymraeg gyntaf erioed i gael ei dangos ar wasanaeth ffrydio Netflix, gan gyflwyno cynulleidfa ryngwladol i’r gyfres dan y teitl Saesneg Rough Cut.
Mae’r ail gyfres, sydd ar bocset i’w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer , wedi’i seilio ar nofel Iwan ‘Iwcs’ Roberts, ‘Dal Arni’, sy’n ddilyniant i’w nofel ‘Dal y Mellt’. Unwaith eto, cawn ddilyn helyntion Carbo, Antonia a Mici a’r criw wrth iddyn nhw gael eu tynnu i fyd trosedd, brad a dialedd, sy’n ymestyn o ddociau Caerdydd i grombil tywyll strydoedd Llundain.
Yn ymuno â’r cast y tro hwn mae Matthew Gravelle (Y Golau: Dŵr, Broadchurch Ar y Ffin, Un Bore Mercher) i chwarae rhan ‘Blew’.
Yn ôl Matthew mae Blew yn gymeriad sy’n “byw ar ei whits tamed bach - os yw e’n gweld cyfle, mae’n cymryd e, er bod e’n ymddangos bod e braidd yn dopey a ddim yn switched on.
“Mae’n wahanol i’r math o gymeriadau dwi wedi’u chwarae o’r blaen – ma fe lot mwy shady, ti’m yn gwybod cweit lle ti’n sefyll gyda fe – os ydi e ar dy ochr di neu eisiau cymryd mantais ohonot ti. O’n i’n meddwl bod hyna’n reit ddiddorol.”
Ymhlith y cast sy’n dychwelyd ar gyfer yr ail gyfres mae Gwion Morris Jones (Doctor Who, Masters of the Air) fel Carbo a Mark Lewis-Jones (Y Golau: Dŵr, Hostage) fel Mici. Mae Dyfan Roberts hefyd yn dychwelyd fel Gronw, Lois Meleri Jones fel Antonia, Owen Arwyn fel Dafydd Aldo, Siw Hughes fel Meri Jên, Ali Yassine fel Cidw, Rhys ap Trefor fel Jiffy, a Siwan Morris fel Julia.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.