ROEDD llwyddiant i nifer o raglenni S4C yn noson wobrwyo BAFTA Cymru neithiwr.

Bethan Rhys Roberts oedd enillydd Gwobr Sian Phillips eleni am ei chyfraniad arbennig i fyd darlledu, a chipiodd Bethan hefyd y wobr am y Cyflwynydd Gorau am ei gwaith yn cyflwyno Etholiad 2024.

Wrth dderbyn y wobr diolchodd Bethan i’r tîm yn BBC Cymru oedd yn cynhyrchu’r rhaglen Etholiad 2024 a gwasanaeth Newyddion S4C.

Ymhlith yr enillwyr eraill nos Sul oedd y rhaglen Marw Gyda Kris (Ffilmiau Twm Twm) yn y categori Cyfres Ffeithiol.

Derbyniodd S4C bob enwebiad yn y categori Rhaglen Blant gyda Deian a Loli (Cwmni Da) yn dod i’r brig y tro hwn.

Meddai Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Roedd gwylio’r holl enwebiadau heno yn atgoffa ni eto o gryfder y sector gynhyrchu yng Nghymru a pob clod i bawb oedd yn gyfrifol amdanynt.

“Hoffwn ddiolch o galon i’r enillwyr gynhyrchodd gynnwys S4C gydag ystod eang o genres a straeon gwreiddiol.”

Owain Wyn Evans oedd yn arwain y noson eleni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (yr ICC) yng Nghasnewydd oedd yn gyfle i ddathlu talent ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.

Mae'r holl raglenni gafodd eu henwebu ar gyfer gwobr BAFTA i'w gweld ar S4C Clic.