MAE ennill gwobr Dysgwr Cymraeg yng Ngwobrau Cenedl Noddfa 2024 Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi rhoi hwb a hyder i Hlehle Mazwi barhau i ddysgu’r iaith.
Mae’r wobr yn anrhydeddu unigolion sydd wedi cyfrannu i’r Gymraeg neu sydd wedi magu sgiliau yn yr iaith.
Daw Hlehle yn wreiddiol o Dde Affrica. Mae 11 iaith swyddogol yn Ne Affrica, ac mae Hlehle yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n hyderus mewn wyth o’r ieithoedd hynny, sef ei mamiaith, isiXhosa, IsiZulu, isiNdebele, Siswati, Sesotho, seTswana, Gogledd Sotho a Saesneg.
Pan symudodd i Gymru yn 2019, roedd Hlehle yn ymwybodol bod y Gymraeg yn cael ei siarad, ac roedd eisiau dysgu mwy amdani.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg ddwy flynedd yn ôl, gan ddefnyddio Duolingo a’r we er mwyn dysgu cyfarchion a geirfa syml, fel ‘diolch’, a ‘bore da’.
Yn ystod ei chyfnod fel myfyriwr Addysg (MA) a Gweinyddu Busnes (MBA) ym Mhrifysgol De Cymru, basai hi bob amser yn cyfarch yn Gymraeg wrth wneud cyflwyniadau.
Yn ddiweddarach, dilynodd gyrsiau Croeso i Bawb y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’r cyrsiau yn cyflwyno’r Gymraeg a Chymru, ac roedd Hlehle yn eu dilyn yng Nghanolfan Oasis, Caerdydd.
Mae Hlehle, sy’n byw yng Nghaerffili, yn achub ar bob cyfle i ddysgu a defnyddio’r iaith yn ei bywyd pob dydd.
Eglura Hlehle: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ieithoedd. Dw i’n siarad fy mamiaith, sef isiXhosa, felly dw i’n gwybod pa mor werthfawr yw’r iaith Gymraeg i Gymru.
“Mae diwylliant, iaith a threftadaeth yn bwysig i fi. Dyna pam ro’n i eisiau dysgu Cymraeg.
“Mae gen i gymaint o ddiddordeb ac angerdd dros yr iaith Gymraeg, a dw i wrth fy modd yn siarad â phobl am yr iaith a dangos fy mrwdfrydedd drosti.”
Pan mae Hlehle a’i ffrindiau’n cymdeithasu, maen nhw’n ceisio dysgu geiriau Cymraeg newydd ymysg ei gilydd, a chwarae cwisiau er mwyn dysgu mwy am yr iaith.
Mae gan Hlehle ddiddordeb mewn chwaraeon, yn enwedig rygbi a thennis, ac mae’n mwynhau gwylio rhaglenni chwaraeon ar S4C i’w helpu i ddysgu.
Mae hi’n defnyddio TikTok fel arf i rannu ac addysgu eraill am ei thaith iaith, ac mae hefyd yn gweithio ar lyfrau posau Cymraeg.
Roedd ennill y wobr yn “deimlad braf” ac wedi “rhoi hyder i mi barhau i ddysgu’r iaith”, eglura Hlehle.
Dywed bod byw yng Nghymru a dysgu’r iaith wedi gwneud iddi deimlo’n rhan o’r gymuned.
Ei dymuniad ar gyfer y dyfodol yw gallu siarad a chyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg, ac ymarfer cymaint â phosibl gyda siaradwyr Cymraeg.