MAE ffilm Cymraeg Western cyntaf S4C, Lluest, newydd orffen ffilmio ar draws Cymru ac yn Stiwdios Great Point yng Nghaerdydd. Dyma ffilm cyntaf Sinema Cymru, cynllun newydd sydd wedi ei gefnogi gan S4C a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, i hyrwyddo ffilmiau Cymraeg ar lwyfan byd-eang. Mae’r ffilm yn cael ei gynhyrchu gan Severn Screen.

Mae’r ffilm wedi ei greu gan Ed Talfan sydd hefyd yn gynhyrchydd gweithredol arni ynghyd â Todd Brown. Gareth Bryn sydd yn cyfarwyddo a Hannah Thomas yn cynhyrchu. Mae’r cast yn cynnwys Aimee-Ffion Edwards (Slow Horses, Believe Me, Peaky Blinders), Rhodri Meilir (Craith, In My Skin) ac Yann Gael (Vanilla, Néro the Assassin).

Ffilm gyfnod yw Lluest, wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Cymru yn ystod gaeaf eithafol 1780. Mae Maggie Jenkins (Aimee-Ffion Edwards) yn gofalu am dyddyn y teulu ynghyd â’i thad rhag lladron ac eithafwyr crefyddol. Pan ddaw ei brawd alltud adref yn annisgwyl - a phawb yn meddwl ei fod wedi hen farw - mae hen glwyfau yn agor a thensiynau’n tanio.

Wrth i’r byd o gwmpas Maggie droi’n fwy creulon bob dydd, mae’n rhaid i Maggie hawlio ei chyfiawnder ei hun, a hynny mewn byd caled ble defnyddir crefydd fel arf, gyda dynion yn fygythiol a pheryglus, a ble gall trugaredd fod yn angheuol.

Bu MetFilm Sales yn cyflwyno’r ffilm i brynwyr yn Marché du Film yn Cannes fis yma (Mai) gan rannu lluniau yn ogystal â’r sgript yno.

Meddai Gwenllian Gravelle, Cynhyrchydd Gweithredol Lluest, Pennaeth Ffilm & Drama S4C, ac un o sylfaenwyr Sinema Cymru: “Rydym yn falch o gefnogi Severn Screen i ddod â’r ffilm nodwedd gyfnod, feiddgar hon yn fyw trwy ein cynllun Sinema Cymru mewn cydweithrediad â’n partneriaid creadigol.

“Mae’r ffilm hon yn nodi moment arwyddocaol i S4C, wrth i ni ddychwelyd at gynnwys o gyfnod hanesyddol gydag ongl newydd, gyfoes, gan adrodd stori sy’n adlewyrchu dyfnder, prydferthwch ac uchelgais sinematig Cymru.”