CAFODD hunangofiant hynod un o dylwyth hen Ddociau Caerdydd, a chymeriad arbennig – Wayne Howard - ei lansio yr wythnos hon.

Yn y gyfrol, mae Wayne yn olrhain hanes ei fywyd personol ei hun, a hanes ei deulu a’i wreiddiau – yr hyn sy’n rhan annatod o’i gynhysgaeth.

Mae’n siarad yn agored ac yn onest am ei fagwraeth a’i blentyndod ym Mae Teigr; yr heriau yn sgil hiliaeth a rhagfarn; ei frwydr â’i iechyd meddwl, a’r cwmni a’i gwnaeth yn ddi-waith; ei daith ryfeddol i ddysgu, ac i addysgu, Cymraeg. Ond hefyd – ac yn bwysicaf oll – mae’r gyfrol hon yn rhoi blas inni ar ei ddygnwch yn wyneb awelon croes bywyd; ei gariad diddarfod at ei deulu a’i ffrindiau, a’i gyd-ddyn; a’i awch i ysbrydoli pobl.

Yng ngeiriau Wayne ei hun: “Gobeithio ei fod yn ddiddorol ac yn ddifyr; ac y bydd yn procio’ch meddwl ac yn eich ysbrydoli. Mae’r gair olaf ’na – ‘ysbrydoli’ – yn bwysig iawn i mi. Pan ddaw fy amser i i gau fy llygaid am y tro olaf, dw i am deimlo ’mod wedi gwneud gwahaniaeth positif i fywyd rhywun.’”

Yn y llyfr difyr hwn, mae Wayne yn trafod ei ddatblygiad a’i esblygiad fel person – o fod yn llencyn ifanc chwerw, rhwystredig i fod yn ddyn positif, diolchgar.

Mae Wayne yn trafod rhai o’r profiadau bywyd a’r canfyddiadau sydd wedi’i siapio fel unigolyn dros y blynyddoedd, ac sydd wedi’i gymell i feithrin a chynnal y byd-olwg positif, diolchgar hwn.

Mae’n sôn am yr hwyl, y cymdeithasu a’r ‘camaraderie’ a fodolai ymysg bechgyn y gwaith dur, yn ogystal â’u teyrngarwch a’u ffyddlondeb i’w gilydd ar adegau heriol.

Mae hefyd yn sôn am y cyfeillgarwch a’r cysylltiadau cadarnhaol y mae Wayne wedi’u hadeiladu ar ei daith Gymraeg, yn dilyn colli ei waith yn ddisymwth.

Yn ogystal, cawn glywed gan Lynda, gwraig Wayne, ac Elinor, ei ferch drwy ystod y llyfr; mae eu cyfraniadau a’u safbwyntiau nhw yn ychwanegu at liw a gwead y darlun crwn.

Mae Wayne, bellach dros ei saith deg oed, yn berson sy’n arddel hunanfynegiant didwyll, di-ymddiheuriad; ond sydd hefyd yn awyddus i wneud ei ran i helpu eraill, yn enwedig unigolion mewn angen, ac i ddod â rhywfaint o lawenydd ac ysgafnder i’w byd.

Hunangofiant Dyn Positif, Bywyd a Gwaith Wayne Howard, Y Lolfa , £9.99