MAELlywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddu eu bod yn ffafrio Delyth Evans i olynu Guto Bebb fel cadeirydd nesaf S4C.
Dechreuodd Delyth ei gyrfa fel newyddiadurwraig yn HTV Cymru, gan weithio ar y rhaglen materion cyfoes flaenllaw Y Byd ar Bedwar ar gyfer S4C.
Wedi hynny bu’n gweithio fel gohebydd ar raglenni World at One a PM BBC Radio Four.
Daeth Delyth yn Aelod Llafur o Gynulliad Cymru (y Senedd bellach) yn 2000, gan gynrychioli etholaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru, a bu’n ddirprwy weinidog dros Ddiwylliant, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Ar ôl rhoi’r gorau i wleidyddiaeth bu Delyth yn gweithio yn y sector elusennol fel prif weithredwr Smart Works, elusen cyflogaeth menywod.
Ar hyn o bryd mae Delyth yn aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru, yn Llywodraethwr yng Ngholeg Gwent, ac yn ymddiriedolwr Sefydliad Alacrity a'r Urdd.
Bydd Delyth nawr yn ymddangos ar 23 Ebrill gerbron ASau ar y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer craffu cyn penodi.
Mae’r broses hon ar gyfer penodi Cadeirydd S4C wedi’i nodi yn Neddf Darlledu 1990.
Cynorthwywyd y Gweinidogion yn eu penderfyniadau gan Banel Asesu Cynghorol a oedd yn cynnwys swyddog adrannol ac uwch aelod panel annibynnol a gymeradwywyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Roedd Llywodraeth Cymru a swyddfa Cymru Llywodraeth y DU hefyd wedi’u cynrychioli ar y panel a nodir yn Neddf Darlledu 1990.
Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Lisa Nandy: “Dechreuodd Delyth ei gyrfa fel newyddiadurwr darlledu, ac mae ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol S4C yn adlewyrchu dealltwriaeth ddofn o dirlun diwylliannol a chyfryngol Cymru, yn ogystal ag ymrwymiad parhaus i wasanaeth cyhoeddus.
“Rwy’n falch o’i hargymell ar gyfer rôl y Cadeirydd, lle bydd yn sicr yn hyrwyddwr balch o ddarlledu yn y Gymraeg.
“Mae hon yn nodi pennod gyffrous i S4C wrth i ni ddatblygu cynlluniau i hybu cyfleoedd gwaith a photensial twf y diwydiannau creadigol yng Nghymru a gweddill y DU.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae gan Delyth hanes gwych ym maes darlledu a chyfoeth o brofiad mewn gwasanaeth cyhoeddus i ddod i rôl Cadeirydd S4C.
“Mae S4C yn chwarae rhan ganolog yng Nghymru, gan gynnal a hyrwyddo’r Gymraeg a chryfhau ein hunaniaeth a’n diwylliant unigryw.
“Mae’r sianel yn gonglfaen i’r sector creadigol cryf yng Nghymru sy’n hanfodol ar gyfer twf economaidd.”
Mae cadeirydd S4C yn derbyn tâl o £40,000 y flwyddyn a bydd yr ymrwymiad amser yn cyfateb i gyfartaledd o ddau ddiwrnod yr wythnos.
Cynhaliwyd y broses benodi hon yn unol â Chod Llywodraethu Penodiadau Cyhoeddus Swyddfa’r Cabinet.