MAE’R Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar yng Nghribyn gyda’r newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £195,000 i Fenter Ysgol Cribyn.

“Dyma beth yw anrheg Nadolig werth ei chael,” oedd ymateb Alan Henson, cadeirydd y fenter.

“Amser hyn llynedd mi o’dd llawer ohono ni’n becso gallai’r ysgol gael ei gwerthu i brynwr priefet a’i golli am byth i’r gymuned.

“Diolch i’r penderfyniad hwn ac i’r holl gydweithio llawen a llwyddianus yng Nghribyn dros y flwyddyn ddiwetha’ y’n ni’n edrych mla’n yn hyderus at wneud 2025 yn flwyddyn newydd wirioneddol dda.”

Peidiodd Ysgol Cribyn fod yn ysgol bentre yn 2009.

Wedi hynny defnyddiwyd hi’n ganolfan ar gyfer eithrio disgyblion.

Wrth i argyfwng Covid daro, trowyd yr ysgol yn storfa offer hylendid i’r sir gan adael ond un stafell ddosbarth fach ar gyfer defnydd y gymuned.

“Rhwng effaith Covid a prin unman i gwrdd mi o’dd pethe’n edrych yn dywyll ’ma,” medd Alan.

“O’dd raid i ni ’neud rhywbeth neu fydde cymdeithas Gymra’g fyrlymus yr hen Gribyn wedi dod i ben.”

Dan arweiniad Cymdeithas Clotas – mudiad a sefydlwyd yn 2009 i wrthweithio effeithiau negyddol cau’r ysgol - ymateb yn gadarnhaol wnaeth y gymdogaeth.

Fis Ionawr eleni, pwyswyd yn llwyddianus ar gabinet Ceredigion i roi cyfle i’r pentre ei phrynu.

Yna, wedi ffurfio Cymdeithas Budd Cymunedol codwyd dros £70,000 gan gyfranddalwyr lleol mewn cwta chwe wythnos.

A thra’n aros am benderfyniad Llywodraeth Cymru mae’r brwdfrydedd newydd yng Nghribyn wedi gweld sefydlu clwb te deg llewyrchus (bob bore dydd Mawrth yn yr ysgol), gŵyl newydd (Gŵyl Werin Ffos Davies) ynghyd â gwasanaeth bws bro newydd (Y Siarabang-bang!) i lenwi’r bwlch a adawyd gan Bwcabus.

Daw’r dyfarniad o £195,000 at brosiect Ysgol Cribyn o gronfa Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru

I gwblhau’r gwaith o gyd-brynu’r ysgol, gosod to newydd arni a’i throi’n ganolfan gymdeithasol ac addysg leol mae dal angen sawl can mil ar y fenter.

“O’s, ma’ sbel o ffordd ‘da ni i fynd ’to,” ychwanegodd Alan. “Ond ma pethe’n siapo ’ma nawr a fydd dim prinder llawenydd yr ŵyl yng Nghirbyn ’leni.”