CROESAWYD 51 o aelodau Merched y Wawr, Cangen Aberystwyth, i ginio Nadolig yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth i fwynhau gwledd fendigedig gan ‘Ruth's Kitchen @ Cegin y Clwb’.

Ar ôl llenwi eu boliau bu 12 o'r aelodau yn eu diddanu gyda sgets, darlleniadau a chanu carolau dan gyfeiliant telyn ac iwcalili.

Diolchodd Megan Jones Roberts, y llywydd, Ruth a'r tîm am y bwyd a'r croeso a’r criw talentog am yr adloniant tymhorol.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Lun, 19 Ionawr, 7.30yh, yn Festri Morfa, yng nghwmni y gŵr gwadd Rheinallt Llwyd.