MAE Mudiad Meithrin wedi penodi Carys Gwyn fel pennaeth tîm hyfforddiant iaith i arwain eu cynlluniau ieithyddol.
Dechreuodd ar ei swydd y mis yma, yn ogystal â bod yn rhan allweddol o dîm strategol y mudiad.
Mae Mudiad Meithrin wedi bod yn llinyn arian trwy yrfa Carys ers iddi gael ei phenodi gyntaf fel Swyddog Cefnogi yn Sir y Fflint yn ôl yn 2004.
Yn fuan iawn fe’i dyrchafwyd yn Gydlynydd y Gogledd-ddwyrain ac yna’n Gyfarwyddwr ar draws y Gogledd ac ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth.
Meddai Carys: “Mae cael arwain ar adran a fydd yn dwyn popeth sydd yn ymwneud â chaffael, trosglwyddo a throchi iaith at ei gilydd o fewn y mudiad trwy amryw gynlluniau yn gyfle cyffrous iawn.
“Rwy’n edrych ymlaen i gydweithio â nifer o bartneriaethau hen a newydd i gefnogi’r gweithlu, y gwirfoddolwyr a theuluoedd ar eu taith iaith.”
Diben y swydd yw arwain ar adran newydd sy’n pontio sawl cynllun pwysig yn nhrefniadaeth hyfforddiant iaith Mudiad Meithrin er mwyn dylanwadu ar faes datblygu a chefnogi sgiliau iaith y gweithlu gofal plant a theuluoedd.
Yn fras, cyfeiria hyn at gynllun trochi iaith Croesi’r Bont a chynllun Clebran, cynllun Cymraeg i’r teulu Clwb Cwtsh, a chynllun Cymraeg yn y gweithle Camau.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:“Mae Carys yn dod â blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth i arwain yr adran newydd hon. Fe fydd hyn yn ein galluogi i dyfu’n dylanwad ym maes cynllunio ieithyddol gan ymateb i anghenion y gweithlu gofal plant, ysgolion a theuluoedd. Edrychaf ymlaen at gyd-weithio â hi.”