MAE’R arlunydd, cyflwynydd, bardd ac awdur Siôn Tomos Owen yn cyhoeddi ail gyfrol o straeon am fyw yn y Rhondda.

Mae Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda yn rhan o’r gyfres Amdani, ac mae llyfr Siôn yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen.

Mae Siôn yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, diolch i Pobol y Rhondda, cyfres oedd yn mynd ar daith trwy Gwm Rhondda, ac roedd ei gyfrol gyntaf o straeon ffraeth am ei blentyndod a’i arddegau yn boblogaidd iawn.

Meddai: “Pan sgwennes i’r gyfrol gyntaf nôl yn 2018 ges i lawer o hwyl ond ges i drafferth yn dewis pa storïau i’w cynnwys, ac o’n i’n gwybod byse rhaid i mi sgwennu ail lyfr rhywbryd!

“Ac ar ôl magu fy mhlant yn y cwm hefyd, mae gen i hyd yn oed mwy o straeon doniol i’w rhannu.

“Mae’r ymateb i’r gyfrol gyntaf wedi bod yn wych a dwi wedi siarad a gwneud ffrindiau gyda chymaint o ddysgwyr Cymraeg sydd wedi darllen fy llyfr – pobl o Brighton i Lithuania, Gwlad Pwyl a hyd yn oed Santa Barbara yng Nghaliffornia! Ac mae pawb yn dweud eu bod nhw’n mwynhau’r ffaith bod yna gartwnau yn cyd-fynd gyda’r straeon hefyd, sy’n gwneud i fi wenu.”

Cafodd Siôn Tomos Owen ei eni a’i fagu yn y Rhondda, ac mae e’n byw yno o hyd.

Ychwanegodd Siôn: “Un o fy hoff bethau am deithio yw cwrdd â phobl newydd ac mae’r niferoedd dwi wedi cwrdd â nhw yn ddiweddar sy’n dysgu Cymraeg mor galonogol.

“Yn ddiweddar, mae teulu ffrind fy merch wedi newid iaith y tŷ i’r Gymraeg ar ôl dysgu’r iaith – rwy’n sgwrsio gyda’r fam ar y ffordd wrth fynd â fy merch i’r ysgol bob dydd.

“Mae’r profiad yn gwneud i mi eisiau ysgrifennu mwy o lyfrau i ddysgwyr oherwydd y cynnydd yn y nifer o bobl sy’n dysgu ac mae brwdfrydedd dysgwyr i siarad Cymraeg yn anhygoel!”

Mae Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda gan Siôn Tomos Owen ar gael nawr (£6.99, Y Lolfa).