MAE cyn brif lyfrgellydd plant Cyngor Gwynedd sydd nawr yn olygydd plant gyda’r Lolfa, Nia Gruffydd, yn cyhoeddi dwy stori wreiddiol newydd sbon i blant.

Meddai Nia: “Mae’r ddau lyfr yn hwyl, doniol, a ‘chydig yn wirion. Mae Na Taid! Paid! yn dangos Taid fel rhywun ifanc iawn ei ysbryd, ac yn gwneud pethau dwl.

“Dwi wedi bod yn hynod ffodus i weithio gyda’r arlunydd Heledd Williams, sydd nid yn unig wedi darlunio ei llyfr cyntaf, ond mae hi hefyd wedi dal cymeriad Taid yn berffaith – tydi pobl hŷn yn mynd yn fengach bob dydd dyddiau yma?!”

Bydd Na Taid! Paid! llyfr llun a stori ar gyfer y plant lleiaf - yn cael ei gyhoeddi ar y 18fed o Fedi ac yn dilyn castiau Taid a’u hwyrion yn dweud “Na Taid! Paid!” ar ôl bob digwyddiad bron. Mae’r ail lyfr yn nofel ar gyfer plant 7 i 9 oed, sef Y Dewin Drewi – Busnes Od.

Bydd Y Dewin Drewi – Busnes Od yn cael ei gyhoeddi mis Hydref. Y cyntaf mewn cyfres o dair, mae’r nofel gyda phenodau byr i gadw sylw darllenwyr.

ae’r stori yn dilyn hanes Owi Jones a’i syniad o greu busnes newydd i blant yr ysgol (cynnig effaith drewllyd sosej rôls cartref ei fam arno, gyda’r addewid y bydd unrhyw ddigwyddiad diflas yn ‘diflannu’ gyda help y Dewin Drewi.

Mae lluniau arbennig James Cottell wedi dod ag Owi Jones a’r cymeriadau eraill i gyd yn fyw.

Ychwanegodd Nia: “Fe ddaeth yr ysbrydoliaeth tra ro'n i ar drên yn gadael Llundain, a dyma olygfa o athrawes yn checio bagiau'r plant yn ystod trip ysgol yn dod i fy mhen, a dyma'r syniad o sosej rôl efo'r gallu i greu helynt mawr yn yr ysgol yn dechrau gwneud i mi chwerthin - a dyna gychwyn y Dewin Drewi!”

Gyda threulio gyrfa gyfan yn y maes llyfrau ac annog pobl ifanc i ddarllen, mae Nia yn angerddol dros lyfrau, yn enwedig dros lyfrau sy’n dal dychymyg plant: “Mae llyfrau a straeon yn hanfodol bwysig i danio dychymyg plant o’r adeg maen nhw ddigon hen i ddechrau cymryd sylw o bethau.

“Mae llyfr a stori dda – i mi – efo’r gallu i gymell cymaint o deimladau ac ymateb emosiynol.

“Dylai darllen llyfr gael ei weld fel rhywbeth ymlaciol a phleserus – nid rhywbeth sy'n dasg neu'n rhan o brofion.

“Mae darllen yn gwneud i ni feddwl dros ein hunain – mae'n gas gen i feddwl bod llyfrau print yn enwedig - ddim yn cael eu blaenoriaethu fel y dylent. Dylem i gyd fod yn cymell cariad at ddarllen a llyfrau mewn plant.”

Mae Na Taid! Paid! gan Nia Gruffydd ar gael nawr (£5.99, Y Lolfa) a Y Dewin Drewi – Busnes Od yn cyhoeddi Hydref 2026 (£7.99, Y Lolfa).