YN dilyn llwyddiant Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens yn 2022, cyhoeddir nofel gyntaf Gwenllian Ellis y mis hwn, Mor Hapus (Y Lolfa).
Meddai Gwenllian, sy’n wreiddiol o Bwllheli: “Mae Mor Hapus yn archwilio lot o’r r’un themâu a Sgen i’m Syniad – hynny yw, hunanddelwedd, gorbryder, dêtio, monogami, gwleidyddiaeth rywiol, poendod milenial, dynion underwhelming, merched underwhelming, y pethau ‘da ni’n gadw o’n gilydd, teimlo fel dy fod di ar goll ac yn byw bywyd y ffordd anghywir… Ond mae’n braf na nid fi sydd yn ganolbwynt y stori y tro hyn!”
Yn nofel ffraeth a gonest, mae Mor Hapus yn dilyn dau ffrind, Magw a Thelma, sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain.
Mae’r nofel wedi’i ddisgrifio gan Mared Llywelyn fel un “herfeiddiol… mor feiddgar, mor amrwd, mor gyfoes”.
Ychwanegodd Gwenllian: “Mae ysgrifennu ffuglen wedi fy ngalluogi i archwilio pethau sydd ar fy meddwl i drwy’r cymeriadau a’u cyfeillgarwch.
“Dwi’n hoffi darllen pob math o ffuglen gyfoes, o Sally Rooney i Bethan Gwanas a fedra’i ond gobeithio mod i wedi medru creu stori, cymeriadau a naws mor llwyddiannus a’r ddwy ohonynt.
“Dwi wrth fy modd yn ’sgwennu am gyfeillgarwch a dwi’n meddwl fod o’n lot mwy diddorol i sgwennu amdano na rhamant – ti methu bod yn ddiog, ti methu dibynnu ar y tropes arferol – y will-they-won’t-they neu gelynion yn troi yn gariadon.
“Dwi wrth y modd yn ’sgwennu fflyrtio a secs a pherthnasau rhamantus ond mae cyfeillgarwch yn teimlo dipyn mwy life-affirming a phwysig.”
Bydd Mor Hapus yn cael ei lansio’n swyddogol ar y 10fed o Hydref yn Whitehall, Pwllheli.
Mae’r noson yn dechrau am 7 o’r gloch a Marged Tudur fydd yn holi’r awdur.
Hefyd, ceir lansiad yn y Grange, Caerdydd am 7 o’r gloch ar 24ain o Hydref. Meg Noible @pagemegreads yn holi. Croeso mawr i bawb yn y ddau lansiad.
Mae Mor Hapus gan Gwenllian Ellis ar gael nawr (£11.99, Y Lolfa).
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.