MAE nofel gyntaf yr hanesydd o Bwllheli, Bob Morris wedi’i osod mewn dau gyfnod, sef cyfnod Covid-19 a’r 1960au.
Mae’r nofel yn llawn dirgelwch, tensiwn a chyffro sy’n adlewyrchu ei ddiddordeb byw yn y chwedegau yng Nghymru.
Dywed Bob Morris ei fod wedi seilio’i nofel yng Nghymru’r chwedegau gan mai dyma oedd cyfnod ei arddegau – “degawd lliwgar a chyffrous ar sawl lefel” a’i fod wedi gwau “materion cyfoes y ddegawd a hwyl a diddanwch bod yn ifanc.”
Yn ôl Menna Medi: “Mae’r awdur yn ei elfen yn pontio dau gyfnod, gan blethu digwyddiadau hanesyddol i mewn i’w ffuglen.
“Mae’r chwarae yn digwydd mewn llefydd mor amrywiol â Phen Llŷn, Bangor, Aberystwyth, Rhyl a Llundain, ac fe’n hatgoffir yn gynnil am ddigwyddiadau gwleidyddol y cyfnod yng Nghymru a gwledydd fel Malaysia ac America.”
Craidd Y Cysgod yn y Cof yw profiadau Caerwyn Rowlands, gŵr gweddw 75 oed, sydd newydd ddod o’r ysbyty wedi llawdriniaeth fawr.
O ganlyniad i’w waeledd, mae Caerwyn wedi colli atgofion ei ieuenctid, ac mae Heulwen, ei ferch, yn ceisio’i helpu i adfer ei gof.
Ond wrth i'r darnau ddisgyn i'w lle, mae'n rhaid i Caerwyn ail-fyw ei orffennol cythryblus.
A yw Caerwyn yn barod i wynebu digwyddiadau cythryblus y gwersyll gwyliau Summerland, yn enwedig y penllanw brawychus a gwaedlyd? Yn corddi hefyd o dan y dyfroedd mae anffyddlondeb, euogrwydd, tor calon a thensiynau gwleidyddol yn dilyn boddi Capel Celyn.
Dyweda’r awdur Angharad Tomos: “Gan fy mod yn adnabod yr awdur, ro’n i wedi disgwyl nofel hanesyddol, ond er bod digon o hanes ynddi, aeth ar drywydd gwahanol, ac roedd digon o densiwn.
“Roedd yn rhaid i mi barhau i ddarllen i gael gwybod beth oedd y diwedd!
“Cedwir y tensiwn tan y bennod olaf ond un, pan geir drama fywiog o saethu, aberth a chariad yn y dull gorau.”
Daw Bob yn wreiddiol o Bwllheli, a chafodd addysg yn yr hen Ysgol Ramadeg yno cyn mynd i Goleg y Brifysgol Bangor a graddio mewn hanes ym 1969.
Trwy ei gyfnod yn yr ysgol a choleg, bu’n gweithio dros yr haf yng ngwersyll gwyliau Butlin’s.
Treuliodd ei yrfa broffesiynol i gyd ym myd addysg – yn athro uwchradd, yn cynhyrchu adnoddau dysgu cyfrwng-Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, yn Swyddog Addysg i Cadw yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd ym Mangor – yn y Coleg Normal a Phrifysgol Cymru Bangor.
Ers 1981, mae wedi bwrw gwreiddiau gyda’i deulu ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle.
Cyhoeddodd dros 40 o deitlau hanesyddol ffeithiol ar gyfer ysgolion rhwng 1982 ac 1998 a bu’n darlledu’n achlysurol ar bynciau hanesyddol (ar Radio Cymru yn bennaf) ers 1983.
Mae Y Cysgod yn y Cof gan Bob Morris ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).