MAE’R awdur adnabyddus, Arwel Vittle yn cyhoeddi nofel ffuglen newydd, Hunllef Nadolig Eben Parri – stori ysbryd Gymreig sydd â naws dychanol ac arswydus, wedi'i hysbrydoli gan y clasur A Christmas Carol gan Charles Dickens.
Yn ôl Arwel, daeth syniad y stori iddo’r Nadolig diwethaf wrth iddo gerdded drwy arcêd siopa Caerdydd, lle feddyliodd sut y byddai ysbrydion stori Dickens yn addas ar gyfer y Gymru gyfoes.
Meddai: “Dechreuais ddychmygu beth fyddai'n digwydd pe bai ysbryd, fel ysbrydion stori A Christmas Carol, yn ymddangos allan o unlle heddiw, ac yn mynd â rhywun ar daith rownd Cymru heddiw?
Mae’r llyfr yn edrych ar Gymru drwy lygaid Eben ‘Ben’ Parri, Cymro llwyddiannus sydd, fel Scrooge, wedi llithro i fyd lle mae arian a statws wedi disodli’i werthoedd gwreiddiol.
Noswyl Nadolig, mae’n cael ymweliad annisgwyl gan dri ysbryd; Ysbryd Cymru Fu, Cymru Sydd, a Chymru Fydd.
Wrth i’r ysbrydion fynd ag ef ar daith mewn amser, mae’n dychwelyd i’w orffennol a’i ddyfodol posib, gan gwrdd â chymeriadau hanesyddol, yn ogystal ag adar brith Gymru heddiw ac yfory.
Llwydda Arwel i ddod â hanes, dychan, arswyd a doniolwch at ei gilydd yn y nofel hon, gan apelio at ddarllenwyr o bob oed sydd â diddordeb yn y Nadolig – ond sydd hefyd yn barod i weld y Nadolig, a Chymru, o safbwynt cwbl newydd.
Mae Hunllef Nadolig Eben Parri yn llawn cyfeiriadau at fywyd a thraddodiadau Cymreig, ac yn cynnig portread o Gymru ddoe a heddiw mewn ffordd ysgafn a chraff.
“Dwi’n gobeithio bydd pobl yn cael sbort yn ei ddarllen ond hefyd yn cymryd amser i fyfyrio dros benderfyniadau Eben, a’r math o Gymry ry’n ni’n ei chreu,” meddai Arwel.
I’r awdur, mae’r llyfr yn llenwi bwlch pwysig yn llenyddiaeth Gymraeg.
“Roeddwn i’n meddwl nad oedd llawer o lyfrau dychanol Cymraeg sy’n tynnu coes neu’n cael hwyl am bethau absẃrd sy’n digwydd yng Nghymru,” meddai.
“Mae yna fwlch ar ôl awduron fel Dafydd Huws a Dyddiadur Dyn Dŵad, a lwyddodd i gyfuno hiwmor â phynciau difrifol. Dyna’n union roeddwn i’n ceisio’i wneud yma.”
Yn gyforiog o ddychan a doniolwch, mae Hunllef Nadolig Eben Parri yn llyfr perffaith i unrhyw un sy’n chwilio am ddarlleniad Nadolig Cymreig sy’n cwestiynu, yn diddanu ac yn dychryn!
Cafodd Hunllef Nadolig Eben Parri gan Arwel Vittle ei gyhoeddi 25 Tachwedd (£9.99, Y Lolfa) ac yn cael ei lansio ym Mhalas Print, Caernarfon heno (5 Rhagfyr) am 5yh. Croeso cynnes i bawb.