NOSON Lawen cefn gwlad go iawn! Dyna’r addewid ar gyfer Noson Lawen i’w chynnal ym mherfedd cefn gwlad Ceredigion ddiwedd y mis hwn.
Dan faner ‘Noson Lawen Ffos Davies’ mi fydd perfformwyr hen ac ifanc yn dod ynghyd yn Festri Troedyrhiw, rhwng Cribyn a Dihewyd a Mydroilyn, i godi arian ar gyfer cyhoeddi caneuon gwerin Ceredigion.
“Nid rhyw gyngerdd o beth fydd y noson,” medd un o’r trefnwyr, Euros Lewis. “Cyd-greu yw hanfod ein ffordd gefn gwlad o fyw a chyfle cynnes a chysurus i gyd-wrando, cyd-chwerthin a chyd-ganu fydd y Noson Lawen hon i’n galluogi i gyhoeddi’r casgliad pwysig hwn o ganeuon gwerin y sir.”
Ac mae i’r casgliad hanes diddorol. Ganrif yn ôl daeth John Ffos Davies yn ysgolfeistr ifanc i Ysgol Cribyn a chlywed bobol leol yn canu caneuon gwaith a thafarn oedd yn anghyfarwydd iddo.
Yn gerddor rhagorol fe ‘recordodd’ y caneuon ar ei glust a’u cofnodi ar gopi-bwcs yr ysgol gan achub ‘Twll Bach y Clo’ a thrysorau tebyg rhag eu colli i’r genedl.
Ryw ffordd neu gilydd cafodd adran gerdd coleg Aberystwyth afael ar y casgliad a’i gyhoeddi dan enw Prifysgol Cymru.
Ganrif yn ddiweddarach, wrth i gymdogaeth Cribyn ail-ddatblygu’r ysgol yn ganolfan gymdeithasol ac addysg leol, mae unioni’r cam a wnaed â’r prifathro gynt wedi datblygu’n ymgyrch rymus.
Yn y flwyddyn newydd mi fydd Radio Cymru’n darlledu ‘Pwy Oedd Ffos Davies?’ a chanolbwynt seremoni ail-agor yr ysgol, haf 2026, fydd lawnsiad cyfrol ‘Caneuon Gwerin Ceredigion – Casgliad Cyflawn John Ffos Davies’.
“Mae’n dipyn o fenter,” medd Euros. “Falle bod rhai’n meddwl y bydde’n well i ni ganolbwyntio ar gwblhau adfer yr ysgol yn gyntaf.
“Ond mae’r hyn gyflawnodd Ffos Davies tra’r oedd e’n brifathro yma mor ganolog i’n bwriad o ail-godi Ysgol Cribyn yn bwerdy addysg leol i’r dyfodol – pwerdy a fydd yn rhoi egni newydd i’n dysgu am ein gilydd, oddi wrth ein gilydd, gyda’n gilydd.”
Yn codi hwyl ac yn swyno’r glust fydd yr artistiad gwerin amlwg Owen Shiers, Ceri Rhys Matthews a Julie Murphy, ynghyd â’r baledwr Robyn Tomos.
Yn gwmni iddynt fydd yr offerynwyr Iwan Coedfardre, Talgarreg, Calfin Griffiths, Llanfihangel ar Arth a Llewelyn Gannon un o sêr Band Pres Gwaun-Cae-Gurwen ynghyd â’r chwiorydd disglair o Lanllwni, Alwena a Gwennan Owen (telyn a llais).
Ac yn cadw trefn arnynt oll (ond dim gormod) fydd y storϊwr, digrifwr a’r bardd anghadeiriol Ifan Gruffydd, Tregaron.
Eisoes mae Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi addo £1,000 tuag at y gost o gyhoeddi casgliad Ffos Davies.
Nod Noson Lawen Ffos Davies fydd codi celc go lew o’r £2,000 sydd ei angen eto.
Gan fod y gwaith o ail-ddatblygu Ysgol Cribyn wedi dechrau cynhelir y noson yn Festri Troedyrhiw – drws nesaf i’r capel y bu Ffos Davies yn godwr canu ynddo – capel a festri ym mherfedd y cefn gwlad a ganai’r caneuon sy’n sail i’w gasglad.
Noson Lawen Ffos Davies, Nos Sadwrn, 29 Tachwedd, 7.30 o’r gloch. Tocynnau: £5 / £2.50.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.