“GALLECH ddadlau mai Caerdydd yw prif gymeriad y nofel hon,” medd Robat Gruffudd am Gobaith Mawr y Ganrif, sydd newydd ei chyhoeddi gan Y Lolfa.
Mae ’na olygfeydd wedi eu lleoli ym Mhontcanna, Rhiwbeina, clwb y Cardiff & City, bwyty Eidalaidd yn y Bae, a Chanolfan y Mileniwm, ac mae’r prif gymeriadau’n cynnwys datblygwr tai, cyfreithiwr llwyddiannus, a Menna Beynon, pennaeth Corff yr Iaith Gymraeg.
Ond caiff eu bywyd esmwyth ei styrbio pan gaiff Menna ei bygwth gan gyn gariad iddi, Trystan, o ddyddiau coleg Aberystwyth.
Ychwanegodd: “Mae hyn yn rhoi’r cyfle i fi symud y stori i waelod Cwm Tawe, sy’n cynrychioli Cymru wahanol iawn i un bras Caerdydd ac i ofyn: oes ’na ddwy Gymru? Ac oes gan un Gymru ddyled i’r llall?
“Mae ’na bobl yng Nghaerdydd sydd ar gyflogau bendigedig ond fe grëwyd y swyddi yma – yn y Sianel, yn y Senedd, ym maes yr iaith – gan aberth cenhedlaeth arall a gafodd eu carcharu a’u dirwyo, ac a roddodd eu bywyd ar blât, hyd yn oed, dros yr iaith Gymraeg.
“Tra bod y cwestiwn yma’n llechu y tu ôl i’r nofel, rwy’n trio osgoi pregethu!
“Fy nod oedd dilyn cyngor i sgrifennu ‘nofel traeth’ sy’n hwyl i’w darllen.
“Er yn cynnwys elfennau o ddychan, rwy’n gobeithio bydd pobl yn ei mwynhau hi fel nofel gyffredin.
“Yn wir, fel mae’r nofel yn mynd yn ei blaen, rwy’n dod i hoffi’r Cymry llwyddiannus lawn cymaint â Trystan, y protestiwr iaith blin a dialgar sy’n ymddangos mor sydyn o orffennol Menna.”
Gobaith Mawr y Ganrif yw pumed nofel Robat Gruffudd, sylfaenydd Y Lolfa a’r cylchgrawn Lol, gyda Penri Jones.
Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ddwywaith am ei nofelau Y Llosgi (1986) ac Afallon (2012) ac mae hefyd wedi cyhoeddi Lolian (2016), dyddiadur hanner canrif, ac A Gymri di Gymru (2009), cyfrol o farddoniaeth.
Caiff Gobaith Mawr y Ganrif ei lansio’n swyddogol ym mwyty Ciao Ciao, Aberystwyth am 6 o’r gloch nos Iau, 4 Ebrill gydag adloniant gan Fand Bach Geraint Lovgreen.
Cysylltwch â [email protected] os am fynychu’r noson.
Mae Gobaith Mawr y Ganrif gan Robat Gruffudd ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).