WRTH i bleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar gau, mae’r trefnwyr hefyd wedi datgelu lein-yp y gig eleni.

Caeodd y bleidlais ar nos Wener, 23 Ionawr gyda channoedd o bobl yn bwrw pleidlais dros y 10 categori agored.

Bydd y rhestrau byr yn cael eu datgelu’n wythnosol ar raglenni BBC Cymru Mirain Iwerydd ac Ifan Davies, bob wythnos nes penwythnos y Gwobrau ar 21 Chwefror.

Datgelwyd wythnos diwethaf mai Mirain Iwerydd fydd hefyd yn cyflwyno Gwobrau’r Selar eleni wrth i’r digwyddiad ddychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef cartref yr achlysur rhwng 2015 a 2020 pan oedd yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddoriaeth Gymraeg.

Gyda’r bleidlais yn cau, mae Y Seler hefyd nawr yn gallu datgelu pa artistiaid fydd yn perfformio ar y noson ac mae’r arlwy’n cynnwys amrywiaeth o artistiaid sefydledig a newydd - pob un wedi creu argraff mawr yn ystod 2025 ac wedi bod yn boblogaidd ymysg y pleidleiswyr.

Betsan - gwobr chwefror 2025
Betsan - gwobr chwefror 2025 (Gwobrau'r Selar)

Y prif enwau sy’n perfformio ar y noson ydy Bwncath, un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, a Buddug, a lwyddodd i gipio dim llai na phedair gwobr Selar llynedd.

Mae tri o fandiau ifanc cyffrous yn eu cefnogi hefyd gan Taran, a gipiodd y wobr am y ‘Record Fer Orau’ yng Ngwobrau’r Selar flwyddyn yn ôl, ac sydd wedi rhyddhau eu halbwm llawn cyntaf, ‘Dan y Cymylau’, yn ystod 2025.

Dau fand ifanc sydd wedi creu argraff mawr sy’n cwblhau arlwy’r llwyfan sef Lafant, a ryddhaodd eu EP ‘Y Fodrwy’ yn ystod 2025, a Blȇr o ardal Caernarfon sydd wedi bod yn gwneud eu marc fel un o fandiau mwyaf addawol y sin.

Bydd Djs ar y noson hefyd, a rhain i'w cyhoeddi maes o law.

Mae’r Selar hefyd wedi cyhoeddi mai Prifysgol Aberystwyth ydy prif noddwr Gwobrau’r Selar eleni, sy’n briodol iawn gan ystyried bod yn digwyddiad yn dychwelyd i gampws y Brifysgol.

“Dwi’n credu’n bod ni wedi llwyddo i greu lein-yp sy’n dod ȃ dŵr i’r dannedd, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr am y noson,” meddai prif drefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Mae’n dipyn o fenter i gynnal y digwyddiad mewn lleoliad mawr unwaith eto, ond dwi’n ffyddiog bod y galw yno ac yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am eu cefnogaeth.

“Mae costau cynnal unrhyw ddigwyddiad wedi cynyddu’n aruthrol, ond mae cael cefnogaeth noddwyr yn ein galluogi i ddarparu lein-yp gwych o fandiau gan gadw’r pris tocynnau’n rhesymol.”

Dywedodd Nanw Maelor, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth: “Fel un na chafodd y profiad o fynychu’r Gwobrau cyn y pandemig, mae’n wych gweld y gwobrau yn ôl yn yr Undeb a’r holl dalent a fydd yn cymryd rhan.

“Mae’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn un gyffrous ar hyn o bryd ac hefyd wrth galon profiadau myfyrwyr Cymraeg Aber.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr ac yn siŵr y bydd hi’n noson i’w chofio.”

Ychwanegodd Dr Gwawr Taylor, Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym ni’n falch iawn o noddi’r gwobrau eleni wrth iddyn nhw ddychwelyd i Gampws Penglais am y tro cyntaf ers y pandemig.

“Heb os nac oni bai, dros y degawdau, mae cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol i hyfywedd yr iaith.

“Mae cynnig nawdd i’r achlysur arbennig hwn felly yn gweddu’n berffaith gyda chenhadaeth y Brifysgol i gryfhau Cymru ac i hyrwyddo egni’r Gymraeg.”