MAE’R bleidlais wedi agor i benderfynu pa bâr lwcus fydd yn ymddangos ar raglen S4C Priodas Pymtheg Mil.
Mae dau gwpwl wedi cyrraedd y rhestr fer a gallwch chi bleidleisio dros un ohonynt o ble bynnag yn y byd trwy fynd i Priodas.Cymru.
Y ddau gwpwl ydi Aled Johnson a Malin Gustavsson o Boncath, Sir Benfro, a Teresa Thomas a Rutger Heerbout o Lanrug ger Caernarfon.
Dros y blynyddoedd mae cyfres Priodas Pum Mil wedi trefnu 47 o briodasau gyda chyllideb o £5,000.
Y tro hwn mae’r swm wedi treblu gyda’r rhaglen arbennig i’w gweld ar S4C dros gyfnod gŵyl y Nadolig.
Bydd yr arian yn cael ei defnyddio i wireddu diwrnod perffaith y cwpwl, gan gynnwys elfennau na fyddai’n bosib heb y cymorth ariannol hwn.
Bydd y pâr lwcus yn derbyn cefnogaeth eu teuluoedd a’u ffrindiau i drefnu’r diwrnod mawr, ond hefyd gyda chymorth y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris.
Mae Aled a Malin yn gweithio gyda phlant a gyda dau o blant eu hunain, Owain a Gwennan.
Meddai Aled: “Wnaethom ni ddyweddïo yn Awst 2015. Y rheswm fwyaf pam dyn ni heb wneud e [priodi] yw rheswm ariannol, yn enwedig gyda teulu Malin yn dod o Sweden, er mwyn iddyn nhw bod yn rhan o’r achlysur boed hynny yn Sweden neu yng Nghymru.”
Mae Teresa a Rutger yn rhedeg tafarn yn Llanrug ac yn dymuno priodi yn nhref enedigol Rutger yn Yr Iseldiroedd.
Meddai Teresa: “Fuon ni’n sgwrsio ar lein am flynyddoedd, a wedyn wnaethom ni feddwl mae’n bryd i ni gwrdd, a dyna’r peth gorau wnaethom ni.
“Da’n ni wedi cael amser caled, wnes i golli dad... pump wythnos wedyn wnes i golli fy mab.
“Dwi ddim yn gwybod be faswn i wedi gwneud heb Rutger.
“Cariad fi di Rutger a mae o’n mynd i edrych ar fy ôl i am byth."
Bydd y bleidlais yn cau am 9pm Dydd Gwener, Mehefin 21ain.
Bydd Priodas Pymtheg Mil I’w gweld ar S4C adeg y Nadolig ac ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.