MAE’R opera sebon eiconig Pobol y Cwm yn cyrraedd carreg filltir arbennig iawn ar 16 Hydref wrth ddathlu hanner can mlynedd. I nodi’r pen-blwydd bydd pennod arbennig a chyfleoedd i ffans hen a newydd ddewis uchafbwyntiau’r gyfres.
Pobol y Cwm yw opera sebon deledu hynaf y BBC, ac un o’r operâu sebon hynaf yn y byd. Mae Pobol y Cwm yn cael ei gynhyrchu gan BBC Studios.
Ar ddiwrnod y pen-blwydd ar 16 Hydref bydd pennod arbennig awr o hyd o Pobol y Cwm ar S4C gyda sawl stori fawr yn effeithio nifer o’r trigolion gan gynnwys priodas, genedigaeth ac angladd. A bydd wyneb cyfarwydd iawn hefyd yn dychwelyd i’r cwm.
Bydd S4C hefyd yn cynnal cystadleuaeth archif Pobol y Cwm i roi cyfle i ffans y gyfres bleidleisio am eu hoff benodau o’r archif mewn categorïau gwahanol. Bydd y penodau buddugol yn cael eu darlledu bob nos am 10pm yn ystod wythnos y pen-blwydd.
A phob wythnos yn arwain at y pen-blwydd, mae S4C yn ail-ddangos penodau o Pobol y Cwm: Y Cymeriadau. Bydd modd gwylio’r penodau archif ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Yn ogystal â hynny, bydd rhai o sêr Pobol y Cwm yn cymryd rhan mewn pennod arbennig o Gogglebocs Cymru ar 16 Hydref a bydd talentau’r cast yn cael eu harddangos mewn pennod o Noson Lawen Pobol y Cwm ym mis Rhagfyr.
Bydd set Pobol y Cwm hefyd ar agor i’r cyhoedd ym mis Hydref, gyda theithiau arbennig wedi’u trefnu i roi cyfle unigryw i’r cyhoedd ddathlu’r pen-blwydd mawr y tu ôl i’r llen yng Nghwmderi. Mae manylion y tocynnau ar gael ar wefan bbc.co.uk/pobolycwm.
Mae Pobol y Cwm yn opera sebon wedi’i leoli ym mhentref ffuglennol Cwmderi, yng Nghwm Gwendraeth, de orllewin Cymru. Cafodd ei ddarlledu’n wreiddiol ar BBC Cymru cyn ymgartrefu ar S4C ar gychwyn y sianel yn 1982.
Daeth y syniad am Pobol y Cwm yn wreiddiol gan John Hefin, Pennaeth Drama y BBC ar y pryd, a’r dramodydd Gwenlyn Parry.
Un sydd wedi bod yn rhan o’r cast ers 1989 yw’r actores Sera Cracroft, sy’n chwarae’r rhan Eileen.
Meddai Sera: “Diolch i bawb am wylio Pobol y Cwm dros y 50 mlynedd diwethaf ‘ma...Mae o’n gyfres sy’n llwyddo i ddod â siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg at ei gilydd. A dwi’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan ohono fo am gymaint o amser.
“Mae Pobol y Cwm wedi bod yn ran annatod o ddiwylliant Cymru am 50 o flynyddoedd a dwi’n teimlo’n falch iawn mod i wedi bod yn rhan o hynny achos mae’r gyfres yn rhan o’n diwylliant ni a dylen ni fod yn falch iawn ohoni.”
Yn wreiddiol, cafodd y gyfres ei ffilmio yn Stiwdios Broadway yng Nghaerdydd, yna yng Nghanolfan y BBC yn Llandaf, ac ers 2011, mae’n cael ei ffilmio yn Stiwdios BBC Porth y Rhath ym Mae Caerdydd. Cafodd stryd fawr awyr agored Cwmderi ei ail-greu o’r newydd, tra bod llawer o’r golygfeydd y tu mewn yn cael eu saethu yn y stiwdios.
Mae Pobol y Cwm wedi magu nifer fawr o actorion talentog; yn eu plith Ioan Gruffudd, Iwan Rheon ac Alexandra Roach.
Roedd Gareth Lewis yn chwarae’r rhan Meic Pierce am bron i 40 mlynedd, ac roedd Lisabeth Miles, sy’n chwarae’r rhan Megan Harries, yn y bennod gyntaf erioed ac yn parhau i fod yn y gyfres 50 mlynedd yn ddiweddarach. Andrew Teilo (Hywel Llywelyn) sydd wedi bod yn y gyfres hira’n ddi-dor.
Meddai Lisabeth Miles: "Mae Megan a fi wedi bod yn cyd-fyw ers hanner can mlynedd bellach!
“Beth sy’n gwneud Pobol y Cwm yn arbennig yw’r straeon da, cymeriadau da a’r cydweithio arbennig...Ac mae’n bwysig i mi am ei fod o’n rhan hanfodol o ddarlledu yn y Gymraeg ac i Gymru – y siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg."
Mae sawl person enwog wedi gwneud ymddangosiadau yn y gyfres ar hyd y blynyddoedd gan gynnwys Michael Sheen,Ruth Jones, Ray Gravell, Michael Aspel, Syr Dave Brailsford, Beti George, Imogen Thomas, y reslwyr Giant Haystacks ac El Bandito a Max Boyce.
Dywedodd Dafydd Llewelyn, Cynhyrchydd y Gyfres: “Mae Pobol y Cwm wedi chwarae rhan mor allweddol yn hanes datblygiad y cyfryngau yng Nghymru gan ddechrau gyrfa sawl un nodedig ond hefyd – ac yn bwysicach efallai – mae wedi bod yn ganolog ym magwraeth cenedlaethau o unigolion a theuluoedd dros y degawdau.
“‘Da ni’n edrych ymlaen yn arw at gael dathlu’r achlysur arbennig hwn gan osod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol yn ogystal.”