MAE cyfres gerddoriaeth newydd yn cychwyn ar S4C heno o’r enw 3 Cân. James Dean Bradfield, prif leisydd y band o’r Coed Duon y Manic Street Preachers, fydd un o’r artistiaid yn canu yn Gymraeg am y tro cyntaf ar S4C.

Mae pob rhaglen yn dilyn thema gwahanol, a’r caneuon yn ymwneud â’r themâu hynny. Mae’r rhaglen gyntaf yn dilyn y thema Bwyd a Diod gan osod cynsail ar gyfer cyfres sydd yn dod â chaneuon eiconig a lleisiau newydd oddi ar draws Cymru i'r amlwg.

Ifan Davies sydd yn cyflwyno’r gyfres. Mae Ifan yn gerddor, cyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni cerddorol a DJ wythnosol ar Radio Cymru ac yn angerddol dros gerddoriaeth Gymraeg. Fe hefyd yw prif leisydd y band Swnami.

Meddai: “Dwi wedi bod wrth fy modd yn cyflwyno’r gyfres hon – dwi wedi sgwrsio hefo cerddorion o bob cwr o Gymru a chwrdd hefo artistiaid newydd a chyfoes dwi’n awyddus i glywed mwy ohonynt, ac artistiaid dwi wedi eu hedmygu ers blynyddoedd.

“Roedd cael James o’r Manics i ganu ar y rhaglen yn arbennig. Mae o wedi bod ar daith yn dysgu Cymraeg, a fo wnaeth gyfieithu un o glasuron y Manics, Ready for Drowning, i’r Gymraeg – Barod i Boddi.

“Mae’n ei chanu’n fendigedig ac yn hollol ddi-ymdrech – dwi’n edrych ymlaen i glywed mwy ganddo yn Gymraeg!”

Lleucu Non
Lleucu Non (S4C)

Mae cyfres 3 Cân yn ein cyflwyno i artistiaid newydd ar y sîn fel Lleucu Non a’r band o’r Preselau, Dewin, gan ddangos yr amrywiaeth gyffrous sydd o fewn y sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Mae Ifan hefyd yn cael sgyrsiau gydag artistiaid sydd wedi ysgrifennu rhai o glasuron cerddoriaeth Gymraeg, a chael dysgu’r broses fu tu ôl i’w cyfansoddi.

Mae sgwrs yn y rhaglen gyntaf yn y gyfres gyda chyfansoddwr y gân Coffi Du, a gafodd ei pherfformio gan y band o ardal Blaenau Ffestiniog, Gwibdaith Hen Frân.

Meddai Paul Thomas o’r band, sydd bellach yn athro gwyddoniaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Caerdydd: “Oeddan ni’n cyfarfod yn eithaf aml yn Y Ring yn Llanfrothen.

“Oeddan ni jyst wrth ein boddau yn eistedd yn y gongl yn canu nerth ein pennau.

“Rhoddon ni her i’n gilydd i fynd i ffwrdd i sgwennu tair cân yr un a dod â nhw nôl ag ymarfer nhw a wedyn trio gwneud rhywbeth allan ohoni – Coffi Du oedd y cyntaf i mi sgwennu o dan yr amodau hynny.

“Oedd o adeg gorau mywyd i, ar antur... oeddan ni’n gigio pob penwythnos, aethon ni i Wlad y Basg ddwywaith, Glastonbury...”

Un agwedd gyffrous yn y gyfres ydi clywed hen ganeuon wedi’u hail ddehongli gan genhedlaeth newydd o artistiaid.

Lucy Borja
Lucy Borja (S4C)

Mae Coffi Du yn cael ei hail-wampio a’i chanu yn y rhaglen gyntaf gan yr artist o Gaerdydd, Lucy Borja sydd yn cynnig teimlad newydd a ffres i’r gân.

Meddai Ifan: “Dyn ni mor gyfarwydd hefo’r caneuon hyn, mae’n chwa o awyr iach i’w clywed eto ond hefo golwg wahanol.

“Mae Lucy yn canu Coffi Du mewn arddull jazz reit hamddennol. Mae gynnon ni Mari Mathias y cerddor o Geredigion mewn rhaglen arall, yn canu clasur y band Jess Pan mae’r glaw yn dod i lawr hefo naws arallfydol iddi.... ac maen nhw i gyd yn gweithio.”

Mae 3 Cân yn clymu caneuon eiconig, straeon personol a pherfformiadau bythgofiadwy, gan ddathlu cerddoriaeth Gymraeg a'r artistiaid y tu ôl iddynt. Mae'r gyfres yn dwyn sylw at ba mor fywiog a pherthnasol yw'r sîn gerddoriaeth Gymraeg heddiw gan ddangos caneuon cyfarwydd wedi'u hail-greu a thalent newydd sydd yn dod i’r fei.

Mae 3 Cân yn darlledu ar S4C o ddydd Mercher 13 Mai, a bydd pob pennod ar gael i'w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer o’r un dyddiad, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg. Bydd rhestr chwarae arbennig ar Spotify o'r 15 Mai yn cynnwys yr holl ganeuon o'r gyfres.