BYDD gwylwyr yn gallu gwylio rhaglenni S4C ar Freely, gwasanaeth ffrydio newydd ar gyfer y DU.

Mae Freely yn gydweithrediad rhwng y BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5 i ddiogelu teledu am ddim ar gyfer yr oes ffrydio. Am y tro cyntaf, gall cynulleidfaoedd ffrydio sianeli teledu byw ochr yn ochr â chynnwys ar alw am ddim trwy eu setiau teledu clyfar, gan ddileu'r angen am ddysgl loeren neu aerial. Dyma'r tro cyntaf y bydd gwylwyr gwasanaeth teledu am ddim yn gallu newid yn ddi-dor rhwng cynnwys byw ac ar alw darlledwyr blaenllaw'r DU. Hisense yw partner teledu clyfar Freely sy'n gyfrifol am ddod â setiau teledu i'r farchnad.

Dywedodd Elin Morris, Prif Swyddog Gweithredol S4C:  "Rydym yn falch o allu dod â rhaglenni Cymraeg i gynulleidfa newydd ar Freely.

"Byddwn yn gallu dangos y creadigrwydd a'r dalent sydd gennym yng Nghymru i gartrefi ledled y DU

"Bydd gwylwyr yn gallu gwylio rhaglenni dogfen, drama, newyddion a chwaraeon yn fyw ac ar alw."

Bydd setiau teledu Freely ar gael mewn siopau mawr ar draws y DU ac ar-lein.