Mae S4C wedi cyhoeddi bwrsariaeth newyddiaduraeth chwaraeon – ochr yn ochr â’r Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies flynyddol – gyda’r bwriad o ddenu talent newydd o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli ym myd darlledu.
Y gobaith yw y bydd y bwrsariaethau yn apelio at bobl ag etifeddiaeth ethnig leiafrifol, anabledd a/neu sy'n dod o gefndir economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig. Yn ogystal, mae'r Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth yn agored i unrhywun sydd y cyntaf i siarad Cymraeg yn rhugl o fewn y teulu.
Mae Bwrsariaeth Cyfryngau Chwaraeon S4C yn cynnig cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu sgiliau ar gwrs MSc Darlledu Chwaraeon Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ogystal, bydd y person llwyddiannus yn cael profiad ymarferol gyda thîm digidol chwaraeon S4C a rhai o gwmnïoedd cynhyrchu mwyaf Cymru, a’r cyfle i ennill cyfnod gwaith wedi'i dalu ar ôl i'r cwrs orffen.
Mae’r Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies yn cynnig y cyfle i astudio ar gwrs MA Newyddiaduraeth Darlledu JOMEC ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â phrofiad gwaith gyda thimoedd newyddiaduraeth S4C, BBC ac ITV ar gynyrchiadau llinol a digidol.
Meddai Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C, am y ddwy fwrsariaeth: “Mae S4C yn helpu pobl o bob cefndir yng Nghymru i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i ddod yn rhan o'n gweithlu.
“Rydym yn annog unrhywun sydd â chwant i weithio yn y byd darlledu i ymgeisio am y cyfleoedd gwych yma.
“Felly rydym yn falch iawn i gydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ac i fuddsoddi yn yr hyfforddiant yma i sicrhau nid yn unig cyfleon, ond i gyfoethogi’r cynnwys ar gyfer pawb yng Nghymru.”
Yn ôl Joe Towns, Cyfarwyddwr Cwrs MSc Darlledu Chwaraeon, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd am Fwrsariaeth Cyfryngau Chwaraeon S4C: “Mae’r cyfle yma yn berffaith i unrhywun sydd yn ysu i weithio ym maes cynhyrchu chwaraeon. Mae’r cyfuniad o hyfforddiant trwy’r brifysgol a phrofiad gwaith ymarferol yn cynnig cyfle unigryw. Gyda haf o chwaraeon o’n blaenau, nawr yw’r amser perffaith i wneud cais i fod yn rhan o’r diwydiant cyffrous yma yn y dyfodol.”
Dywed Sali Collins, Pennaeth Cwrs Meistr (MA) Newyddiaduraeth Darlledu, o Brifysgol Caerdydd am Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies: “Mae perthynas sefydledig, llwyddiannus rhyngom ni ac S4C gyda nifer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i yrfaoedd gwych yn darlledu yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn falch iawn i gydweithio ar y fwrsariaeth yma, ac yn edrych ymlaen at weld mwy o wynebau newydd yn rhannu straeon newyddion holl bwysig gyda’r genedl.”
Y dyddiad cau i wneud cais am y ddau gyfle yw dydd Llun 2 Mehefin 2025. Mae manylion am y ddau gyfle ar wefan S4C: s4c.cymru/cyfleoedd