Mae S4C wedi ennill mwy na hanner gwobrau BAFTA Cymru eleni, gan ddod i'r brig mewn naw o'r 17 categori yn y seremoni arbenninig a gynhaliwyd nos Sul (4 Hydref) yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd.

Ymhlith yr enillwyr oedd Mari Grug, a gipiodd wobr yn y categori Cyflwynydd am gyflwyno y rhaglen ddogfen Mari Grug: Un Dydd ar y Tro (Tinopolis), sy'n dilyn ei thaith ar ôl cael diagnosis o ganser.

Enillodd Y Crwydryn (Docshed), y ffilm ddogfen sy’n dilyn y canwr gwlad Wil Tân ddwy wobr, yn y categori Rhaglen Ddogfen Sengl, ac enillodd Rhys Edwards y wobr Cyfarwyddwr Ffeithiol.

Roedd y noson, a gyflwynwyd gan Owain Wyn Evans yng Nghanolfan Gonfensiwn Ryngwladol Cymru, yn ddathliad o dalent eithriadol y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Yn y categorïau eraill, enillodd y gyfres ddetio Amour & Mynydd (Darlun) y categori Adloniant, tra daeth Itopia (Boom) i'r brig yn y categori Rhaglenni Plant.

Cipiodd Y Golau: Dŵr (Long Story TV/APC/Triongl) y wobr yng y categori Drama, gyda Mali Evans yn ennill gwobr am ei gwaith golygu ar y gyfres.

Enillydd y categori Cyfres Ffeithiol oedd Stori'r Iaith (Rondo), tra enillodd Foden: O Brifathro i Bedoffeil (Darlun) y wobr am y rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes orau.

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Roedd yr holl enillwyr mewn ystod mor eang o gategoriau a gafodd S4C yn dystiolaeth glir o greadigrwydd a doniau eithriadol y sector gynhyrchu yng Nghymru, ac yn destun balchder mawr.

“Hoffwn ddiolch o galon i'r holl enillwyr am gynhyrchu cynnwys o'r safon uchaf ar draws ystod eang o genres a straeon sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes."

Mae'r holl raglenni a gafodd eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru ar gael i'w gwylio ar S4C Clic.