Bydd S4C yn talu teyrnged i un o lenorion mwyaf blaenllaw Cymru mewn rhaglen arbennig am Eigra Lewis Roberts.
Bydd y rhaglen Eigra i’w gweld ar S4C ar nos Wener, 24 Gorffennaf. Ynddi bydd cyfweliad gydag Eigra ei hun o 2017, cyfweliad nad sydd wedi’i ddarlledu erioed o’r blaen. Bydd hefyd gyfweliadau gydag aelodau o’i theulu agos, awduron a’r rheiny oedd yn ei hadnabod orau.
Bu farw Eigra Lewis Roberts yn 86 mlwydd oed ar y 6ed o Fawrth, 2026. Ysgrifennodd ddegau o gyfrolau yn cynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu. Yn fwy diweddar roedd hi wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu gan addasu sawl darn o lenyddiaeth adnabyddus yn y Gymraeg - Y Graith, Y Wisg Sidan a rhai o weithiau Kate Roberts fel Y Mynydd Grug.
Un o’r cyfranwyr yn y rhaglen ydi’r awdures arobryn Caryl Lewis, sydd yn uniaethu gydag Eigra fel mam ac un sy’n gwneud ei bywoliaeth yn ysgrifennu.
Meddai Caryl: “Nid hawdd yw bod yn fam a bod yn awdur, felly dwi’n uniaethu’n llwyr ac yn llawn edmygedd achos ’oedd hi’n un o’r rhai cyntaf.
“Roedd hi’n canolbwyntio ar beth sy’n gwneud cymuned yn gymuned, yn lle mynd ar ôl y ffasiwn llenyddol diweddaraf, ’oedd hi’n gw’bod pwy oedd hi; ’oedd hi’n gw’bod beth oedd ganddi ddiddordeb ynddo.”
Mae’r rhaglen yn rhannu nifer o berlau annisgwyl am Eigra – ei mwynhad wrth ymweld â pheiriannau slots yn yr arcêds oedd yn esgus gwych iddi allu ymhél ac hefyd arsylwi ar bobol, ac hefyd ei hoffter o fwyta McDonald’s gyda’i chyfeilles.
Meddai Sioned Lewis, merch Eigra:“Dwi’n meddwl mai’r unig adegau oedd mam yn switsio i ffwrdd oedd pan oedd hi’n chwarae peiriannau, a bob dydd Sadwrn ’oedd dad yn mynd i ‘neud y siopa a mi oedd mam yn mynd i’r arcêd.
“’Oedd ganddi sedd, roedd pobl yr arcêd yn ’nabod hi, oeddan nhw hyd yn oed yn rhoi presant ‘Dolig iddi. Dwi’n meddwl oedd chwarae y peiriannau hefyd falle’n perthyn i’r elfen gystadleuol yma, ac ’oedd hi wrth ei bodd dod nôl i’r car i ddweud wrth dad faint oedd hi wedi ennill...”
Roedd Eigra yn rhan bwysig o ddatblygiad S4C. Cafwyd briodas wych rhwng ei gwaith fel nofelwraig a’r byd teledu yn achos y gyfres deledu hynod boblogaidd yn yr 1980au, Minafon. Un oedd yn actio yn y gyfres honno ac yn ffrind i Eigra, oedd John Ogwen.
Meddai: “Be ddaru wneud Minafon mor ofnadwy o boblogaidd oedd cymeriadau cig a gwaed. Roedd pobl adre yn medru uniaethu efo nhw. Mae pobl yn dod i ‘nabod y cymeriadau ac yn meddwl eu bod nhw’n rhai byw.”
Roedd Eigra yn storïwraig eithriadol a’i gwaith wedi cyffwrdd â chynifer. Mae’r rhaglen hon yn dathlu ei bywyd, ei hiwmor, ei doethineb a’i chyfraniad enfawr i ddiwylliant Cymru. Dyma gyfle i gofio amdani a hefyd cyfle i gynulleidfaoedd newydd ddarganfod ei gwaith.
Bydd Minafon ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer o 24 Gorffennaf.

.jpeg?trim=0,0,0,0&width=752&height=501&crop=752:501)




Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.