MA Tîm Cefnogi’r Gymraeg Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi lansiad cyfres o bodlediadau newydd, “Pod yr Ysgol,” sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer y gweithlu addysg.

Daw’r fenter hon mewn ymateb i adborth gan staff y sector addysg uwchradd a oedd yn ei chael yn anodd mynychu gwersi dysgu Cymraeg ffurfiol wrth weithio. Er bod apiau dysgu iaith yn fuddiol, mynegodd llawer o aelodau staff y byddai'n well ganddynt wrando ar bodlediadau wrth gymudo.

Mae Pod yr Ysgol ar hyn o bryd yn cynnwys chwe phennod ddifyr, pob un yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o ddiwrnod ysgol ac amserlen, megis cyrraedd a gadael yr ysgol, ac amser cinio. Mae'r podlediadau hyn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am ddysgu geirfa a phatrymau syml sy'n gysylltiedig â bywyd ysgol.

Bydd y podlediadau ar gael ar bob prif lwyfan digidol, gan gynnwys Apple Podcasts a Spotify, gan ddechrau o fis Medi ymlaen.

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl gyda chefnogaeth Arfor a Llwyddo’n Lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Rwyf wrth fy modd gyda lansiad Pod yr Ysgol.

“Gan gydnabod yr heriau a wynebir gan staff wrth fynychu gwersi Cymraeg ffurfiol, roeddem am ddarparu offeryn dysgu hyblyg a hygyrch.

“Mae’r podlediadau hyn yn cynnig ffordd hwylus o ddysgu geirfa ac ymadroddion Cymraeg sy’n ymwneud â bywyd ysgol, gan ei gwneud hi’n haws i’n staff integreiddio’r iaith i’w harferion dyddiol. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Arfor a Llwyddo’n Lleol i ddod â’r prosiect hwn yn fyw, yn ogystal â blaengaredd a gwaith diwyd Tîm Cefnogi’r Gymraeg.”