MAE’R cerddor o Aberystwyth, Georgia Ruth, wedi cyhoeddi ei chyfrol gyntaf yn y Gymraeg, Casglu Llwch, dan adain gwasg y Lolfa.

Mewn cyfres o fyfyrdodau personol a dadlennol, mae Georgia yn ein tywys i gilfachau ei hymennydd wrth iddi rannu canfyddiadau, atgofion, a cheisio gwneud synnwyr o’r byd a’i bethau.

Dywedodd yr awdur: ‘Mae ysgrifennu’r llyfr wedi bod yn outlet hynod werthfawr mewn cyfnod reit newidiol.

“Yn aml, roeddwn i’n canfod pethau annisgwyl wrth ddechrau ’sgwennu – pethau roeddwn i wedi’u hanghofio. Dwi’n gweld y gyfrol, bellach, fel fersiwn ar bapur o fy mrên – siop ail law, yn llawn caneuon a bric-a-brac!”

Un sydd wedi cael ei chyfareddu gan Casglu Llwch yw Mererid Hopwood.

Meddai: “Dyma gyfrol sy’n gadael i lais mam, merch a menyw doddi’n un, a gwthio’r gorwel. Cawn ein cipio gan feddwl craff a chwareus, cryf a charedig, o Gymru i’r byd, o’r penodol i’r cyfanfydol. Dyma ddawn sy’n sylwi ar fân ddigwyddiadau mawr bywyd ac sy’n dal yr eiliad – yr union eiliad.”

Dywedodd Llŷr Gwyn Lewis: “Er mai cyfrol o fyfyrdodau a gawn yma gan Georgia Ruth, yr un yw’r llais â cherddor y caneuon a chyflwynydd y rhaglenni: cynnes, treiddgar ac uniongyrchol, yn ymdroi yn nhristwch a llawenydd eiliadau bach bywyd. Profiadau personol sydd yma ond teimlwn fod yr awdur yn siarad â ni wrth inni uniaethu â’i phryderon a’i hobsesiynau fel ei gilydd.

“Yn ei hanfod, cyfrol am gariad yw hon ac am garu pethau sy’n darfod: plentyndod, lleoedd, aelodau teulu, elfennau o fyd natur, fersiynau ohonon ni’n hunain hyd yn oed. Mae hi’n ymglywed yn feistrolgar â’r tyndra a ddaw yn sgil y cariad hwnnw, rhwng dyheu am gadw a chofnodi a rhoi ar gof, drwy archif a chelfyddyd, a gorfod derbyn ar yr un pryd nad yw yn natur y pethau hyn i aros, yn ddigyfnewid anghofiedig, yn casglu llwch yn rhywle.’

Enillodd Georgia y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013 am ei halbwm cyntaf Week of Pines. Ers hynny mae wedi rhyddhau Fossil Scale (2016), Mai (2020) a Cool Head (2024). Mae ganddi raglen gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru.