GYDAG ychydig dros 75 diwrnod i fynd tan i Gymru gyfan gychwyn am ardal y Garreg Las, mae’r gwaith o baratoi cymunedau ar gyfer croesawu dros 175,000 o ymwelwyr ar fin dechrau.

Ers rhai blynyddoedd bellach, mae pentrefi a threfi ar draws dalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd ati i harddu eu hardaloedd i ddangos croeso cynnes i bawb sy’n ymweld.

Bydd penwythnos swyddogol yr ymgyrch harddu eleni, wedi ei noddi gan gymdeithas dai Barcud, yn cael ei gynnal ar 4 – 5 Gorffennaf. Cyn hynny, cynhelir cyfres o weithdai o amgylch yr ardal, gan gychwyn yng Nghastell Aberteifi ddydd Sul 17 Mai, gyda sesiwn arbennig i fusnesau lleol am 10:00, ac yna sesiwn harddu i drigolion lleol am 14:00.

Bydd yr artist lleol Jenni Jones, athrawes yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, yn arwain y gweithdai. Mae croeso cynnes i bawb ymuno, ac mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim. Nod y gweithdai yw ysbrydoli a chynnig syniadau syml i annog creadigrwydd – ac nid oes angen cofrestru ymlaen llaw.

Meddai Jenni: “Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda chymunedau de Ceredigion er mwyn creu deunyddiau i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal ym mis Awst. Mae eleni’n flwyddyn arbennig iawn i Aberteifi ac i’r Eisteddfod, gyda dathliadau 850 mlwyddiant, ac mae trefnu gweithdy creadigol i harddu’r ardal wedi sbarduno nifer o syniadau lliwgar a bywiog.”

Bydd Sŵ Manor Park ger Dinbych-y-pysgod yn cynnal gweithdy Sir Benfro fel rhan o’r penwythnos harddu ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf. Yno, mae’r bwriad i greu darn o gelf mawr i’w osod ar y ffordd y tu allan i’r brif fynedfa. Cyhoeddir manylion gweithdy gorllewin Sir Gâr yn fuan.

Yn ogystal â’r gweithdai swyddogol, mae’r trefnwyr a’r Pwyllgor Gwaith yn annog cymunedau a thrigolion i fynd ati i addurno a chreu addurniadau lliwgar i groesawu ymwelwyr i’r ardal.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Davies, eisoes wedi gweld a chlywed y brwdfrydedd ar lawr gwlad wrth deithio’r ardal yn ystod y misoedd diwethaf.

Meddai: “Ble bynnag rwy’n mynd, mae rhywun yn siŵr o ofyn am harddu – eisiau gwybod pryd fydd yr ymgyrch yn cychwyn neu rannu syniadau lleol i groesawu pobl i’r ardal. Rwy’n sicr y bydd elfen gystadleuol gref rhwng pentrefi wrth i ni agosáu at wythnos yr Eisteddfod.

“Rydyn ni i gyd wedi clywed am y cythraul canu a chystadlu, ac rwy’n siŵr y bydd cythraul cymunedol yn cydio wrth i bawb baratoi. Rydyn ni wedi gweld cymaint o gefnogaeth wrth i bentrefi godi arian a threfnu gweithgareddau, ac mae’r un brwdfrydedd yn amlwg o ran harddu’r ardal.

“Mae’n gyfle gwych i sicrhau bod ein cymunedau yn edrych ar eu gorau ar gyfer y dathliadau, ac rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwaith dros yr wythnosau nesaf.”

Mae pecyn harddu eisoes wedi’i gyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod, gyda gwybodaeth ddefnyddiol i unrhyw un sydd am gymryd rhan. Mae croeso i pawb sydd â diddordeb mewn ymuno â’r pwyllgor harddu i gysylltu drwy e-bost: [email protected].

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd, gogledd Sir Benfro, o 1–8 Awst eleni.