ERBYN cau’r ffenestr gyfranddaliadau ar 17 Chwefror, mae ymgyrch Fflach Cymunedol i godi arian i adfywio’r label recordiau trwy werthu cyfranddaliadau wedi llwyddo i godi £71,676.00 - dros £20,000 yn fyw na’u targed wreiddiol o £50,000.
Meddai Nico Dafydd, rheolwr y prosiect: “Ni’n falch iawn o’r hyn ry’n ni wedi ei gyflawni, ac yn ddiolchgar dros ben am yr holl gefnogaeth o bell ac agos i’r ymgyrch.
“Mae’n ein galluogi i wireddu ein cynlluniau o adfywio’r label, o ryddhau cerddoriaeth gyda bandiau ac artistiaid newydd, ac o sicrhau dyfodol i’r label hanesyddol yma, a gwaddol er cof am Richard a Wyn, oedd mor bwysig i fywyd diwylliannol Cymru, ac i’r gymuned leol.”
Dechreuwyd Recordiau Fflach gan y brodyr Richard a Wyn Jones yn yr 80au cynnar.

Gyda’r ddau yn aelodau o’r band Ail Symudiad, roedd y ddau yn benderfynol o allu byw a gweithio yn ardal Aberteifi, ac felly ffurfiwyd y label yn gyntaf, ac wedyn stiwdio, er mwyn cefnogi eu hunain a bandiau eraill o’u cwmpas.
Pan gollwyd y brodyr o fewn wythnosau i’w gilydd yn 2021, penderfynodd eu teuluoedd archwilio model cymunedol ar gyfer y cwmni.
Gyda chymorth grant her fach ARFOR yn 2024, daeth hyn yn realiti, ac fe lansiwyd yr ymgyrch i godi £50,000 i barhau gyda gwaith y cwmni ar Rhagfyr 16, 2024.
Mae cynlluniau mawr ar y gweill yn barod, gyda’r bandiau Lafant, Dewin, Chwaer a Mattoidz i gyd yn recordio deunydd newydd i’w ryddhau gyda Fflach Cymunedol.
Tu hwnt i’r gwaith hyrwyddo yma, bydd Fflach Cymunedol yn ymgysylltu gyda’r gymuned trwy drefnu gigs misol, trwy gynnal gweithdai a rhoi cyfleoedd mentoriaeth a phrofiad gwaith, trwy gyd-weithio â mudiadau eraill fel gŵyliau lleol i gefnogi eu gwaith, yn ogystal a gofalu am ôl-gatalog eang Recordiau Fflach, sy’n cynnwys ystod o artistiaid, o Ail Symudiad i Gôr Ar Ôl Tri, o Swci Boscawen i Llio Rhydderch.

Mae’r arian a godwyd yn cynnig sicrwydd i’r cwmni, ac yn rhoi cyfle i fod yn greadigol wrth ail-gyhoeddi cerddoriaeth o’r ôl-gatalog, ac ail-greu ambell glasur.
Mae hefyd yn rhoi sylfaen i’r cwmni wrth edrych i’r dyfodol, gyda chynlluniau i greu stiwdio newydd sbon yn Festri’r Tabernacl — man cychwyn y cyfan oll i Rich a Wyn.
Meddai Nico: "Mae’r ffaith ein bod wedi codi mwy na’r nod yn dangos bod y galw yn gymunedol ac ymysg cefnogwyr cerddoriaeth am gwmni fel hyn.
“Gallwn yn awr ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ddechrau gyda sengl gyntaf Dewin!
“Ar ôl hynny, byddwn yn gofyn i’n cymuned eang o aelodau beth hoffen nhw weld Fflach Cymunedol yn ei wneud.
“Penllanw’r cyfnod cyntaf yma bydd gallu creu cartref newydd i’r label yn Y Tabernacl, gyda stiwdio newydd sbon, ac arddangosfa barhaol o fywyd a gwaith Rich a Wyn, y band, a’r label.”
Mae Fflach Cymunedol yn awyddus i roi cyfle i unrhywun sydd dal eisiau buddsoddi, ac a fethodd dyddiad cau’r ffenestr, i wneud hynny trwy gysylltu ar [email protected] neu fynd i’r ffurflen ar-lein.