GYDA bron i un ym mhob tri phlentyn yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi, lansiwyd ‘Cronfa Cyfle i Bawb’ yr Urdd yn 2019 er mwyn cynnig gwyliau haf am ddim i blant a phobl ifanc difreintiedig Cymru yng ngwersylloedd yr Urdd.
Diolch i gyfraniadau hael gan unigolion, cymdeithasau, busnesau a chynghorau lleol at y gronfa llynedd, roedd modd i’r mudiad gynnig lle i 350 o blant a phobl ifanc o deuluoedd incwm is, gofalwyr ifanc a phlant maeth ar Wersylloedd Haf 2024.
Heddiw, mae’r Urdd yn cadarnhau y bydd modd cynnig gwyliau i 500 o blant a phobl ifanc drwy’r Gronfa, sy’n fwy nag erioed o’r blaen.
Gwahoddir teuluoedd, rheini maeth, athrawon a gofalwyr i wneud ceisiadau ar ran plentyn neu berson ifanc cyn y dyddiad cau, sef 9 Mehefin.
Meddai Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog: “Yn ystod fy amser yng Ngwersyll Llangrannog, dw i wedi bod yn dyst i ba mor llesol yw ein gweithgareddau i filoedd o’n plant a’n pobl ifanc.
“Mae ein hystadegau yn dangos bod 91% o blant yn gwneud ffrind newydd yn ein Gwersylloedd Haf – ac yn y byd sydd ohoni, dyma un o’r ystadegau pwysicaf oll.
“Yn anffodus, nid pob plentyn a pherson ifanc sy’n cael yr un cyfleoedd. Roedd tlodi plant yng Nghymru ar gynnydd cyn y pandemig, ac erbyn heddiw mae un ym mhob tri plentyn yn byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol. I’w teuluoedd nhw, nid yw talu i fynychu gwersyll haf yn opsiwn.
“Rydym ni’n yr Urdd eisiau sicrhau ein bod ni’n fudiad i bawb, a bod cyfle i gymaint â phosib o blant i greu atgofion yng Ngwersyll Haf yr Urdd, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.
“Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i bawb sydd wedi noddi a chyfrannu i’r Gronfa a gwneud hyn yn bosibl dros y blynyddoedd.
“Gyda’n gilydd rydym yn cyfoethogi bywydau a sicrhau profiadau Cymreig cofiadwy i bob plentyn.”
Mae modd i rieni, gwarcheidwaid neu ysgolion lenwi’r ffurflen gais yma er mwyn gwneud cais am wyliau ar ran plentyn drwy nawdd y Gronfa. Dyddiad cau ceisiadau yw 9 Mehefin 2025.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.