MAE Urdd Gobaith Cymru ynghyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gynnig cyfleoedd anhygoel i rai o dalentau artistig mwyaf addawol Cymru.

Yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, bydd chwech o berfformwyr ifanc rhwng 18 a 25 oed yn cael eu dewis o blith y cystadlaethau i unigolion o dan 25 i fod yn Llysgenhadon Diwylliannol Rhyngwladol Ifanc yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan fanteisio ar raglen fentora amhrisiadwy i helpu i ddatblygu a chyfoethogi eu hyfforddiant yn eu dewis faes.

Dyma raglen newydd yn dilyn llwyddiant cynnig Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel am 20 mlynedd.

Bydd pob un o’r chwe enillydd yn derbyn dosbarthiadau meistr gan diwtoriaid Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ei ddisgyblaethau perthnasol, ac yn cael cyfle rhyngwladol gan yr Urdd i arddangos eu talent i gynulleidfa fyd-eang mewn digwyddiadau mawreddog yn ystod y flwyddyn.

Bydd tîm o feirniaid sy’n cynrychioli’r ddau sefydliad yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd i benderfynu ar y chwech gydag enwau’n cael eu cyhoeddi’n fyw ar S4C ar ddydd Sadwrn 1 Mehefin.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn falch iawn o allu darparu llwyfan cenedlaethol i’n perfformwyr ifanc, ond bellach, gallwn gynnig cyfle unwaith mewn oes iddyn nhw berfformio’n rhyngwladol ac ar lwyfan byd-eang.

“Drwy’r bartneriaeth newydd hon gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rydyn ni’n ymrwymo i ddatblygu talentau perfformwyr ifanc Cymru nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Helena Gaunt, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: “Mae'n anrhydedd mawr cyhoeddi’r bartneriaeth hon gyda’r Urdd fel rhan o’n dathliadau pen-blwydd yn 75 oed.

“Bydd ein partneriaeth yn ein galluogi ni yn CBCDC i gysylltu’n ddyfnach â’r Gymraeg a gyda siaradwyr Cymraeg ifanc ledled Cymru, ac i gefnogi talent eithriadol o fewn y gymuned hon.”

Meddai Syr Bryn Terfel: “Mae'r 20 mlynedd ddiwethaf o gynnig Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn destun balchder i mi.

“Fel un sydd â chysylltiad agos i'r Urdd ac i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rwy'n falch iawn o gefnogi y bartneriaeth newydd hon.

“Rwy'n credu'n gryf yn nhalentau perfformwyr y dyfodol, ac edrychaf ymlaen i ddilyn datblygiad y Llysgenhadon Diwylliannol drwy eu sesiynau mentora a theithiau rhyngwladol. Pob lwc i bob un ohonyn nhw.”