CYNHALIWYD cyngerdd arbennig gan Pedair i godi arian ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Mynytho yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Clwb Golff Abersoch o dan ei sang i fwynhau perfformiad gwych gan Sian James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym gyda phawb wedi mwynhau.

Enillodd Pedair wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 3023 am eu halbwm Mae ‘Na Olau.

Pedair yw prosiect diweddaraf criw o leisiau amlycaf canu gwerin Cymru.

Maent eisoes wedi profi eu hunain yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru.