‘Wastad yn edrych am her newydd!’ Dyna, yn ei geiriau ei hunan, pwy yw Elliw Dafydd.

O gyrchu’r corn hirlas yn Eisteddfod Tregaron i ‘hedfan’ megis angel yn stori Nadolig Sioe’r Cardis eleni ac o fentro’n Ffarmwr Ifanc i Affrica a De America i greu menter laeth arloesol yng nghanolbarth Ceredigion, mae’r ferch ffarm o Silian, ger Llanbed, yn deall ystyr y gair ‘her’ lawn cystal a neb. Ac ar ddechrau’r flwyddyn newydd hon, dyma hi’n mynd i’r afael â her newydd arall sef bod yn Gyfarwyddwr Datblygu y cwmni cynhyrchu annibynnol Wes Glei.

Cyn y Nadolig yr her o gyflwyno sioe un actor a wynebai Elliw wrth iddi deithio Cymru benbaladr â’i phortread gwefreiddiol o Annie Cwrtmawr (Mewn Cymeriad).

Bellach yr her o ryddhau a rhannu cyfoeth straeon a chwedlau siroedd y gorllewin trwy gyfrwng ffilm a theledu sy’n ei hwynebu.

Medd Elliw: "Yn ein chwedlau, yn ein hanes, ma’ ’na gymaint o botensial!

"Yr her i fi yw cysylltu’r drysorfa fawr hon - cronfa dychymyg ein gorffennol - â tyrbo-egni dychymyg ein pobl ifainc."

Wedi’i hyfforddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â’i gwaith acto mae Elliw hefyd yn gomedïwr profiadol – yn fwyaf diweddar yn un o ferched Hi-Hi-Hi, y criw sy’n creu cyffro a chwerthin mawr ar draws tafarnau’r gorllewin.

"O Culhwch ac Olwen ymlaen, ma’ creu chwerthin yn rhan o DNA cefn gwlad y siroedd hyn," medd Elliw.

"Mae cael llond tafarn – cymdeithas - o bobol i chwerthin yn brofiad cyffrous iawn."

"Cyffrous" yw’r gair y mae Euros Lewis, arweinydd creadigol Wes Glei, yn ei ddefnyddio hefyd am apwyntiad Elliw.

"Gwaetha’r modd, ma’ gymaint o fwlch wedi agor rhwng byd y cyfryngau a byd cefn gwlad; rhwng diffyg gonestrwydd a chreadigrwydd y naill a dewrder, menter a dychymyg y llall.

"Daw egni a phrofiad creadigol Elliw o ganol y bwrlwm cynhyrfus hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â hi dros y flwyddyn nesa."

Cwmni a flagurodd dros 25 mlynedd yn ôl o waith ieuenctid Theatr Felin-fach a Stiwdio Fflach, Aberteifi yw Wes Glei.

Dros y blynyddoedd mae’r fenter gymdeithasol wedi creu ffilmiau a chyfresi drama i blant (Hambôns / Marinogion), rhaglenni dogfen (Theatr Fawr Felin-fach / cyfresi Croeso i Gymru) a chydweithio â nifer o dalentau comedi’r gorllewin gan gynnwys Bois Garnfach (Dyddiadur Dews / Sbariwns / Low Box) ac, yn fwyaf diweddar, Iwan John a chriw Hyd y Pwrs.

Gyda Wes Glei bellach yn fenter annibynnol, penodwyd Elliw â chefnogaeth ariannol cronfa Cymunedau  Mentrus Arfor (Llywodraeth Cymru / Cyngor Sir Ceredigion).

Yn driw i wreiddiau’r cwmni y nod yw defnyddio cyd-greadigrwydd cynhenid y gorllewin yn fodd i greu cyflogaeth dda a chyffrous i’n pobol ifainc.

Medd Elliw: "Mae’r her newydd hon yn un fawr: ysgogi’n cyd-ddychymyg a chryfhau amgylchfyd cynhaliol ein ffordd o fyw. Dim byd llai!’