Mae rhaglen DRYCH: Stori Alys yn dilyn hanes dawnswraig naw mlwydd oed o Rydaman a gollodd ei choes mewn damwain – ond a wireddodd ei breuddwyd i gystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd llai na blwyddyn yn ddiweddarach.

Yn blentyn bach dilynodd Alys ei chwaer fawr a’i mam i fyd dawnsio creadigol, a syrthio mewn cariad â dawnsio, gan gystadlu bob cyfle a gafodd.

Ond newidiodd popeth un prynhawn Sul ym mis Mehefin 2022, pan anafwyd Alys yn ddifrifol mewn damwain yn yr ardd.

Cafodd driniaeth frys yn Ysbyty Treforys, a bu’n rhaid i’r rhieni egluro i’w merch y byddai yn colli ei choes o dan y pen-glin.

“Odd e ddim yn rhywbeth rhwydd i ddweud o gwbl,” meddai ei thad, Dylan Davies. ”Bydd e’n ddiwrnod bydda’i byth yn anghofio.”

Ond chollodd Alys ddim o’i dewrder na’i phenderfynoldeb.

Dywedodd ei mam, Nia Davies: “Odd y physios yn dod yn y bore a gosod ambell i her iddi, wel erbyn canol y dydd bydd hi’n gweud ‘Mami, ma isie i ti weud ‘tho nhw ddod nôl achos dwi’n gallu neud hwnna nawr’.”

Bythefnos wedi’r ddamwain roedd Alys nôl yn yr ysgol, a llai na deufis wedi hynny roedd yn cerdded gyda help coes brosthetig.

“Odd hi di troi’r gornel pan gath hi’r goes na. Pan ddath i gadre a pan ath hi lan y parc yn syth – ar ôl gweld ‘ny, o’n i’n gwbod bydde dim problem,” meddai ei mam.

Roedd Alys yn benderfynol nid yn unig i ddawnsio eto, ond i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023 gydag Adran Penrhyd.

Ym mis Chwefror 2023, dechreuodd y broses o gael llafn chwaraeon arbennig newydd i ddawnsio arni, ac yna i ddechrau ei thaith i’r llwyfan mawr – ac i fuddugoliaeth.

“Sai’n mynd i cadw coes fi’n stopo fi neud be fi’n caru,” meddai. “Dwi’n dawnsio achos mae’n neud fi’n hapus ac achos mae’n neud fi deimlo fel fi’n free.”

Cafodd DRYCH: Stori Alys yn cael ei ddarlledu fel rhan o dymor Mis Anabledd S4C. Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill.

Cynhyrchiad ITV Broadcasting ar gyfer S4C.